Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:27 pm ar 10 Chwefror 2021.
Diolch, Mark. Rwy'n cydnabod bod yr ansicrwydd sy'n deillio o'r amgylchiadau rydym yn eu hwynebu o ganlyniad i'r pandemig presennol yn arbennig o heriol i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys awtistiaeth. Rwy'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi dysgwyr, rhieni a gofalwyr yn ystod y cyfnod hynod anodd hwn.