Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 10 Chwefror 2021.
Ie, diolch am y gwerthusiad hwnnw. Mae'n sefyllfa anodd. Mae'n ymddangos i mi fod y profiad o ddysgu gartref wedi amrywio'n aruthrol, rhywbeth y dylem fod wedi'i ddisgwyl, mae'n debyg. Cyn y gallwn fynd i'r afael â sut i ddal i fyny ag addysg goll plant oedran ysgol wrth inni ddod allan o'r argyfwng COVID, bydd angen rhywun arnom i asesu'n awdurdodol ble yn union rydym arni. O ystyried hynny, a ydych yn rhagweld y bydd gan Estyn rôl fawr yn asesu ein sefyllfa, a beth yw eich barn ar hyn o bryd ynglŷn ag ailddechrau arolygiadau ysgolion yng Nghymru?