Myfyrwyr yn Syrthio ar ei Hôl Hi

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:32 pm ar 10 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 3:32, 10 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Gallaf, yn wir, David. Ddoe, cyhoeddodd CBAC ragor o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd graddau'n cael eu dynodi gan ysgolion a cholegau. Fe'i cynlluniwyd i fod mor hyblyg â phosibl, ac i sicrhau y gellir rhoi cyfrif digonol am y gwahanol brofiadau a gaiff plant yn y broses honno. Felly, os caf roi enghraifft i chi: nid yw'n dynodi, er enghraifft, faint o ddarnau o waith sy'n angenrheidiol i allu gwneud asesiad, gan gydnabod y bydd pob myfyriwr unigol wedi cael profiad gwahanol iawn.