Y Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:51 pm ar 10 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mike Hedges Mike Hedges Labour 3:51, 10 Chwefror 2021

Lansiodd y Gweinidog y cynllun gweithredu dros ddwy flynedd yn ôl, ac er bod rhywfaint o gynnydd da wedi ei gyflawni, rydyn ni dal mewn sefyllfa lle mai dim ond 11 y cant o staff addysg bellach a 7 y cant o staff prentisiaethau sy'n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. A all y Gweinidog egluro'r hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan golegau yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gyflogi mwy o staff sydd â sgiliau iaith Gymraeg i gynnig darpariaeth ddwyieithog, yn enwedig mewn meysydd fel gofal plant ac iechyd a gofal cymdeithasol, lle mae angen gweithlu dwyieithog?