Addysg Gymraeg

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:59 pm ar 10 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 3:59, 10 Chwefror 2021

Ar hyn o bryd, Weinidog, dim ond un ysgol Gymraeg sydd ym Mlaenau Gwent, ac mae teithio yno yn rhwystr, yn enwedig ar gyfer plant iau. Wrth reswm, dyw rhieni ddim eisiau rhoi plant tair mlwydd oed ar ddau fws gwahanol i fynd i ysgol sydd ddau gwm i ffwrdd. Mae ymgyrchwyr lleol wedi pryderu ers blynyddoedd am ostyngiad yn y nifer o blant o'r sir sy'n mynychu ysgolion Cymraeg; hynny ydy, tan nawr. Mae'r cyngor ym Mlaenau Gwent wedi cynnig adeiladu ysgol newydd ar safle Ffordd y Siartwyr, gan agor y dosbarthiadau cyntaf yn 2023. A fyddech chi yn gyntaf, plis, Weinidog, yn ymuno gyda fi i longyfarch yr ymgyrchwyr, megis Meryl Darkins ac Ann Bellis, a hefyd yn sicrhau y byddwch chi'n cefnogi'r cyngor er mwyn gwneud yn siŵr y bydd yr ysgol yn agor ar amser? Yn y cyfamser, Weinidog, a fyddech chi'n gallu siarad gyda'r Gweinidog dros drafnidiaeth i weld os oes yna unrhyw fodd i wella'r sefyllfa drafnidiaeth ar gyfer y plant yn y cyfamser, cyn bod yr ysgol yn agor? Ac i gau—a dwi'n addo, Dirprwy Lywydd, mae hyn i gau—dwi'n deall bod hyn oll yn fater i'r cyngor, ond gwnaethoch chi helpu i roi momentwm y tu ôl i addysg Gymraeg ym Merthyr llynedd, pan oeddech chi wedi cynnig arian grant; mae llefydd fel Blaenau Gwent a Merthyr mor ganolog i'r targed o filiwn o siaradwyr, felly byddai cefnogaeth y Llywodraeth wir yn fuddiol yma. Diolch.