Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 3:55 pm ar 10 Chwefror 2021.
Gallaf gadarnhau bod trafodaethau wedi bod yn mynd rhagddynt rhwng yr is-adran iaith Gymraeg, yr is-adran addysg bellach a phrentisiaethau a swyddogion cyllid i archwilio ymhellach beth arall y gallwn ei wneud i gefnogi gwaith pwysig y coleg.