Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 10 Chwefror 2021.
Weinidog, chwe mis yn ôl mynegodd comisiynydd y Gymraeg bryder am y gostyngiad yn nifer yr athrawon newydd gymhwyso sy'n gallu addysgu Cymraeg, a dywedodd y gallai danseilio uchelgais eich Llywodraeth i gael miliwn o siaradwyr yr iaith ymhen 30 mlynedd. Tybed beth rydych chi wedi bod yn ei wneud i fynd i'r afael â hyn.