Part of 4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd – Senedd Cymru am 4:13 pm ar 10 Chwefror 2021.
Diolch yn fawr iawn—mae hynny'n ddiddorol iawn. Edrychaf ymlaen yn arbennig at glywed mwy am y gerddi fertigol. Mae hynny'n wych. Mae lles meddyliol pawb wedi dioddef o ganlyniad i'r holl fesurau y bu'n rhaid i ni eu cymryd i aros gartref er mwyn lleihau'r haint, ac mae hynny'n cynnwys Aelodau a'n staff, felly rwy'n gobeithio y gallwn barhau i hyrwyddo tyfu o'r fath fel y gallwn ei wneud ar yr ystâd fel rhywbeth sy'n gwella llesiant pobl.