6. Datganiadau 90 Eiliad

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:20 pm ar 10 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Helen Mary Jones Helen Mary Jones Plaid Cymru 4:20, 10 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch. Ddirprwy Lywydd, rydym i gyd yn gwybod, rwy'n meddwl, nad Twitter yw'r lle hapusaf bob amser. Ond yr wythnos diwethaf, cafodd fy llinell amser ei goleuo'n llythrennol gan gannoedd o lusernau hardd. Gwnaed y llusernau gan blant ar draws Sir Gaerfyrddin fel rhan o Brosiect y Lanternwyr, syniad Jayne Marciano. Ysbrydolwyd y prosiect gan y llyfr gwych i blant, Y Lanternwyr.

Mae'r llyfr yn gynnyrch Cymreig go iawn, wedi'i ysgrifennu a'i ddarlunio gan Karin Celestine o Sir Fynwy a'i gyhoeddi gan Graffeg yn Llanelli. Mae mewn dwy ran. Mae'r gyntaf yn stori am daith a wneir gan greaduriaid bach wrth iddynt geisio dychwelyd golau i'r ddaear ganol gaeaf, gan ganolbwyntio ar y syniad y bydd golau bob amser yn dychwelyd, hyd yn oed i'r dyddiau tywyllaf. Mae'r ail ran yn gyflwyniad byr i'r traddodiadau y mae'r stori'n eu dwyn i gof: y Fari Lwyd a'r canu gwasael.

Gwelodd y prosiect ddisgyblion yn eu cartrefi ac yn eu hybiau yn darllen y stori, yn dysgu am y traddodiadau ac yn gwneud llusernau hardd, gan ddod â golau i amseroedd tywyll. Roedd y prosiect hefyd yn rhoi cyfleoedd i'r plant fynegi eu teimladau am y cyfyngiadau symud a siarad am eu gobeithion ar gyfer y dyfodol. Mae'r llusernau'n amrywiol tu hwnt, wedi'u gwneud o ystod eang o ddeunyddiau: paentio hyfryd ar wydr, papur lliwgar, defnydd clyfar o gardbord a phlastigau a thuniau, wedi'u gwneud gan blant mor hen ag 11 oed ac mor ifanc â thair oed. Gwnaethant i fy llinell amser ddisgleirio. I mi, roeddent yn gwneud yn union yr hyn a fwriadwyd. Daethant â golau mewn cyfnod tywyll. Fe wnaeth y llusernau i mi wenu, ac roedd gweld wynebau balch y plant yn gwenu yn gwneud i mi deimlo'n obeithiol iawn, ac rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran llawer o rai eraill a welodd y llusernau hyfryd hyn hefyd.

Deallaf fod cynlluniau yn awr i ehangu'r prosiect y tu hwnt i Sir Gaerfyrddin. Felly, hoffwn ddiolch i chi. Roeddwn wedi meddwl ceisio rhestru'r holl ysgolion y gwyddwn eu bod wedi cymryd rhan, ond mae gormod, ac nid wyf am brofi amynedd y Dirprwy Lywydd. Felly, ni allaf eu henwi i gyd, ond diolch i bawb ohonoch—ysgolion, staff, teuluoedd, ac yn bennaf oll, y plant. Diolch yn fawr iawn. Rydych chi'n lanternwyr go iawn, bob un ohonoch.