Part of the debate – Senedd Cymru am 4:36 pm ar 10 Chwefror 2021.
Diolch, Lywydd. Fel y dywedais yng Nghyfnod 2, roeddwn yn gyfforddus iawn â'r ysbryd sy'n sail i'r hyn roedd yr Aelod yn ceisio'i gyflawni drwy ei welliannau yn y cyfnod hwnnw mewn perthynas â chanllawiau am y cyfnod cyn yr etholiad ac am ymgyrchu. Mae'n amlwg bod y rhain ill dau yn faterion pwysig ac rydym yn sicr yn paratoi canllawiau arnynt. Felly, rwy'n falch iawn o fod wedi gallu gweithio gyda'r Aelod i baratoi'r gwelliannau hyn, a bydd y Llywodraeth yn eu cefnogi. Diolch.