Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 10 Chwefror 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ydw, dwi'n siarad i'r unig ddau welliant sydd gennym ni yn fan hyn: gwelliant 15 a gwelliant 17. Fel y soniwyd ddoe yn ystod trafodion Cyfnod 2, mae yna drafodaethau adeiladol wedi digwydd efo'r Llywodraeth er mwyn dod o hyd i eiriad oedd yn dderbyniol i Weinidogion a ninnau, felly y cyfaddawd a'r cytundeb a gyrhaeddon ni sydd o'n blaenau ni heddiw.
Bwriad gwelliant 15 ydy ymgorffori'r syniad o gyfnod cyn diddymu neu gyfnod cyn etholiadol ar wyneb y ddeddfwriaeth, a chreu dyletswydd ar y Prif Weinidog i gyhoeddi canllawiau yn dweud beth mae'r Llywodraeth a Gweinidogion yn cael ei wneud a beth chân nhw ddim ei wneud yn ystod y cyfnod cyn diddymu yma. Rydym ni yn credu bod angen diogelu'r egwyddor yn y ddeddfwriaeth fod rheolau am degwch y cyfnod cyn etholiad mor bwysig yn etholiad Senedd 2021 ag yn unrhyw etholiad arall, er gwaetha'r ffaith bod y Bil, wrth gwrs, yn cwtogi yn sylweddol y cyfnod diddymu statudol arferol er mwyn galluogi adalw'r Senedd i drafod busnes yn ymwneud â COVID.
Rydym ni'n credu hefyd fod angen gwarant y bydd canllawiau yn cael eu cyhoeddi gan y Llywodraeth, yn amlinellu'r gofynion a'r cyfyngiadau ar ddefnydd adnoddau ac ar fusnes y Llywodraeth yn y cyfnod yma. Mae hynny'n angenrheidiol er mwyn tryloywder ac i roi ffydd i etholwyr na fydd adnoddau cyhoeddus y Llywodraeth yn cael eu defnyddio at ddibenion pleidiol yn yr wythnosau'n arwain at yr etholiad, y bydd tegwch i Lywodraeth y dydd a'r gwrthbleidiau fel ei gilydd. Mi oeddwn i'n dweud ddoe fod canllawiau wedi'u cyhoeddi mor fuan â Rhagfyr 2015 ar gyfer etholiad Mai 2016 ond nad ydyn ni hyd yma wedi cael unrhyw beth gan y Llywodraeth eto ar gyfer etholiad 2021.
Rŵan, mae Comisiwn y Senedd eisoes wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer y cyfnod diddymu statudol, mewn paratoad ar gyfer y cyfnod diddymu mis o hyd, y cyfnod arferol y byddem ni wedi'i weld mewn amgylchiadau arferol, ac mae yna fecanwaith statudol ar gyfer cyhoeddi canllawiau ar ddefnydd adnoddau'r Senedd yn barod mewn lle o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Mesur Comisiynydd Safonau Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009 ac ati. Dydy'r Comisiwn ddim wedi'i gynnwys yn y gwelliant yma am y rheswm hwnnw. Er hynny, mae'n bwysig bod cyn gymaint o ganllawiau â phosib ar gael i Aelodau presennol y Senedd, ac mi ydw i'n edrych ymlaen i weld y Comisiwn yn diweddaru ac ailgyhoeddi y canllawiau sydd wedi cael eu cyhoeddi'n barod er mwyn ymateb yn gadarnhaol i ddarpariaethau terfynol y Bil yma.
At welliant 17 yn fyr: bwriad y gwelliant yma ydy creu dyletswydd ar Weinidogion Cymru i gyhoeddi canllawiau'n amlinellu'n glir y math o weithgarwch ymgyrchu sy'n cael digwydd o dan wahanol gyfyngiadau COVID wrth arwain at yr etholiad. Does yna neb yn gweld etholiad cyffredin yn digwydd eleni, ond er mwyn caniatáu cyfle cyfartal i bawb sy'n sefyll—nid jest y rhai sydd â phlatfform cryf ar y cyfryngau cymdeithasol yn barod neu rai sydd â phocedi dyfnion er mwyn talu i ddeunydd gael ei rannu—mae'n rhaid cael eglurder ar y math o weithgarwch sy'n cael ei ganiatáu. Mae'r gwelliant yma yn cyflawni'r nod hwnnw, felly, a'r disgwyliad ydy y bydd y canllawiau a gaiff eu cyhoeddi o dan y Bil wedi'i wella, o basio'r gwelliant yma, yn rhoi eglurder i gwestiynau fel, 'A oes hawl cyfreithiol gan wirfoddolwyr i ddosbarthu taflenni o dan gyfyngiadau lefel 4?', 'A fydd modd ymgyrchu o ddrws i ddrws o dan gyfyngiadau lefel 2 neu 3?' Cwestiynau pwysig, mae yna lawer o gwestiynau tebyg, ac mae'r gwelliant yma yn mynd i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu cael yr atebion iddyn nhw.