Grŵp 2: Y broses ar gyfer cynnig gohirio o dan adran 5 (Gwelliannau 3, 16, 4, 6, 7)

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 10 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:41, 10 Chwefror 2021

Rydw i'n siarad i welliant 16 yn y grŵp yma. Eto, yn achos y gwelliant yma, fel yn y ddau ddiwethaf, mae yna drafodaethau adeiladol wedi gallu digwydd rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth ac mae'r gwelliant sydd o'n blaenau ni fan hyn yn gyfaddawd positif iawn, rydw i'n credu. Bwriad y gwelliant ydy rhoi dyletswydd ar y Prif Weinidog i wneud datganiad rhagweithiol i'r Senedd yn dweud naill ffordd neu'r llall erbyn 24 Mawrth ydy o'n bwriadu gwneud cynnig i ohirio'r etholiad ai peidio.

Mi drechwyd ein gwelliannau ni ddoe oedd yn galw am point of no return cadarn fyddai wedi golygu bod yn rhaid i'r Prif Weinidog ddechrau'r broses o wneud cais i ohirio'r etholiad erbyn dechrau'r cyfnod cyn diddymu ar yr hwyraf—7 Ebrill fyddai hynny wedi bod yn achos etholiad 6 Mai. Fel y soniais i ddoe, mae unrhyw beth ar ôl hynny yn mynd yn rhy hwyr yn ein tyb ni, o ystyried y bydd ymgeiswyr yn ymgeiswyr cyfreithiol erbyn hynny, o ystyried y bydd y cyfnod gwariant etholiadol wedi dechrau ac yn y blaen. Dan y cyfaddawd yma, er na chawn ni wybod yn gwbl bendant erbyn 7 Ebrill, bydd gennym ni fwy o sicrwydd erbyn 24 Mawrth a phenderfyniad hefyd, oni bai bod rhywbeth mawr iawn ac annisgwyl iawn yn newid, a fydd yr etholiad yn mynd yn ei flaen ai peidio.

Yn sgil pasio ein gwelliant ni ddoe oedd yn creu dyletswydd ar y Llywodraeth i gynnal adolygiad o'r paratoadau ar gyfer cynnal etholiad yn ystod pob un o'r adolygiadau tair wythnosol o'r cyfyngiadau COVID, a chyfathrebu canfyddiadau'r adolygiadau hynny, mi ddylai fod gennym ni ddarlun clir, rydw i'n credu, erbyn 24 Mawrth o'r cyfeiriad rydyn ni'n mynd iddo fe o ran y pandemig a'i effaith tebygol o ar y gallu i gynnal etholiad. Mi ddylai fod y Prif Weinidog mewn sefyllfa, felly, i wneud penderfyniad erbyn y dyddiad hwnnw. Y rheswm dros y dyddiad yna ydy mai hwnnw ydy'r diwrnod olaf mae disgwyl i'r Senedd eistedd cyn dechrau'r toriad Pasg fydd yn arwain i mewn i'r cyfnod cyn etholiadol, ac mae yna resymeg felly yn y ffaith bod y penderfyniad yn cael ei ddatgan i'r Senedd tra mae'r Senedd yn dal yn eistedd, fel y gallwn ni graffu ar y penderfyniad.

I ateb rheswm y Ceidwadwyr dros yr hyn glywsom ni, eu bod nhw'n mynd i bleidleisio yn erbyn hwn, gaf i eich hatgoffa chi bod hwn yn Fil nid yn unig i ganiatáu gohirio etholiad ond i ddangos ac i ganiatáu'r etholiad gael ei gynnal mewn ffordd ddiogel ar 6 Mai? Rydyn ni i gyd yn gobeithio mai dyna fydd y sefyllfa. Rydyn ni'n gofyn i'r Prif Weinidog amlinellu yn ei ddatganiad o i'r Senedd sut allwn ni gael sicrwydd y byddai parhau efo etholiad dan gysgod y cyfyngiadau COVID yn galluogi cael ymgyrch lawn a theg, a hynny er tegwch i bob ymgeisydd sy'n sefyll, boed yn ariannog neu ddim, ond hefyd er tegwch i bawb sy'n gymwys i bleidleisio, fel y gallan nhw gael mynediad er gwaetha'r cyfyngiadau tebygol at wybodaeth, sydd mor bwysig er mwyn gallu gwneud penderfyniad o ran i ble y dylen nhw fwrw eu pleidlais. Felly, mae'n bwysig iawn, dwi'n meddwl, bod hwn yn cael ei gynnwys yn y Bil wedi ei wella. 

Gair am welliannau 3 a 4. Rydyn ni yn erbyn y gwelliannau yma, gafodd eu cyflwyno gan Gareth Bennett efo cefnogaeth Mark Reckless, sy'n ceisio cyfyngu gallu'r Prif Weinidog i gynnig gohirio'r etholiad oni bai bod Llywodraeth Prydain wedi gwneud yr un peth ar gyfer etholiadau'r comisiynwyr heddlu. Cydnabyddwch mai dyma ein hetholiad cyffredinol ni yma yng Nghymru. Mae'r dyddiad rydyn ni'n ei osod a'r rheolaeth sydd gennym ni dros y dyddiad hwnnw yn hollbwysig i ddemocratiaeth Cymru.

At welliannau 6 a 7, rydyn ni'n cefnogi ysbryd y gwelliannau yma gan y Ceidwadwyr. Mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn ei gwneud hi'n glir beth ydy'r trothwy ar gyfer gohirio. Mi allwn ni weld rhinwedd yng ngwelliant 7 yn enwedig, a allai atgyfnerthu'r adran newydd a gafodd ei chefnogi'n unfrydol ddoe o ran adrodd fesul tair wythnos am ba mor debygol ydy gohirio'r etholiad. Mi fyddai'r gwelliannau yma yn ffurfioli'r meini prawf sy'n sail i hynny, er mi fyddwn i'n rhoi'r cafeat na fuasem ni am weld cyfyngu ar y mathau o ffactorau fyddai angen eu pwyso a mesur wrth ddod i benderfyniad.