Part of the debate – Senedd Cymru am 4:58 pm ar 10 Chwefror 2021.
Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn credu, os caiff etholiad ei ohirio, y byddai'n well ei gynnal yn ystod misoedd yr haf yn hytrach nag yn y gaeaf, oherwydd mae hi hefyd wedi dweud hynny wrthyf yn gyson yn flaenorol. Mae'n anghynaliadwy yn ddeallusol felly i alluogi'r posibilrwydd, neu ddarparu ar gyfer y posibilrwydd, o gael yr union etholiad hwnnw yn y gaeaf. Mae ein safbwynt yn gynaliadwy, mae ein safbwynt yn sefyll, ac er gwaethaf sylwadau'r Gweinidog, er fy mod yn ofni eu canlyniad, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliannau.