Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 10 Chwefror 2021.
Dyna ni, felly. Dŷn ni wedi dod i ddiwedd ein hystyriaeth o Gyfnod 3 o Fil Etholiadau Cymru (Coronafeirws), ac rwy'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi'u derbyn. Hefyd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.50A, gallaf gadarnhau nad yw darpariaethau'r Bil Etholiadau Cymru (Coronafeirws) yn ymwneud â phwnc a warchodir yn fy marn i.