Part of the debate – Senedd Cymru am 1:25 pm ar 10 Chwefror 2021.
Dyma ni'n cyrraedd y bleidlais, felly. A dim ond i ddweud, os derbynnir gwelliant 34, bydd gwelliannau 35, 36, 37, 38 a 39 yn methu. Y cwestiwn yw, felly: a ddylid derbyn gwelliant 34? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly, i mewn i bleidlais ar welliant 34. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid wyth, neb yn ymatal a 41 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 34 wedi'i wrthod.