Part of the debate – Senedd Cymru am 1:21 pm ar 10 Chwefror 2021.
Diolch, Lywydd. Fel y mae Delyth wedi’i ddweud, mae gwelliannau 34 i 39 yn nodi ystod o gyfnodau rhybudd amgen hirach y mae'n rhaid i landlord eu rhoi er mwyn dod â chontract cyfnodol safonol i ben o dan adran 173 yn Neddf 2016. Mae gwelliannau 40 i 45 yn gwneud yr un peth mewn perthynas â hysbysiadau a roddir o dan gymal terfynu landlord mewn contractau safonol cyfnod penodol. Mae'r Bil, wrth gwrs, eisoes yn ymestyn cyfnodau rhybudd yn y ddau achos o ddau i chwe mis. Mae'r cyfnod rhybudd hirach yn gydbwysedd rhwng buddiannau landlordiaid a deiliaid contractau, ac mae'n safbwynt a gefnogwyd eisoes gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ei adroddiad Cyfnod 1 ar y Bil.
Rwy’n deall yn llwyr fod Delyth yn awyddus i gyrraedd sefyllfa lle mae’r sector rhentu preifat yn rhoi’r math o sicrwydd deiliadaeth y byddai pobl mewn tai cymdeithasol yn ei gael yn ddelfrydol, ond byddwn yn dadlau y bydd rhai o’r gwelliannau hyn yn arwain at ganlyniadau anfwriadol y byddai angen i ni eu hystyried pe baem yn ceisio ymestyn y cyfnodau rhybudd yn y ffordd hon, yn anad dim y byddai pobl yn ymadael â’r sector rhentu preifat yn gyfan gwbl pe bai'n rhaid iddynt aros sawl blwyddyn i gael tŷ yn ôl mewn amgylchiadau lle gallai fod ei angen arnynt am resymau da. Felly, mae hyn bob amser yn ymwneud â'r cydbwysedd rhwng angen y landlord i gadw eu heiddo at eu defnydd eu hunain neu er mwyn ei werthu neu beth bynnag, ac i'r tenant gael sicrwydd deiliadaeth sy'n caniatáu iddynt aros yn yr ardal lle mae eu plant yn yr ysgol a lle maent wedi ymsefydlu fel teulu, fel y dywed Delyth, ac mae gennym gryn dipyn o gydymdeimlad â hynny. Yn sicr, rydym yn awyddus i gael y cydbwysedd yn iawn, a chredwn fod yr hyn rydym yn ei nodi yn y Bil yn taro'r cydbwysedd hwnnw, ac na fydd yn arwain at unrhyw ganlyniadau anfwriadol.
Yn ychwanegol at hynny, ac mae'n bwynt rwyf wedi'i wneud o'r blaen ond mae'n werth ei wneud eto: o dan y Bil fel y'i drafftiwyd, bydd gan denantiaid yng Nghymru fwy o sicrwydd deiliadaeth mewn perthynas â hysbysiad dim bai nag yn unrhyw le arall yn y DU. Yn yr Alban, er enghraifft, nid oes yn rhaid i denant fod ar fai i gael 28 diwrnod o rybudd yn unig yn ystod chwe mis cyntaf eu tenantiaeth a llai na thri mis o rybudd ar ôl hynny. Byddai'r cyfnod hysbysu byrraf amgen yn y gwelliannau hyn yn amharu ar y cydbwysedd rhwng hawliau deiliad y contract a’u landlord, ac mae'n ddigon posibl y byddai iddo ganlyniadau anfwriadol yn y sector rhentu preifat. Fel y nodais wrth y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol pan gyflwynwyd yr un gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2, ni chredaf y gellid cyfiawnhau’r cynnydd hwn, ac am y rhesymau hyn, Lywydd, er fy mod yn deall eu bod yn llawn bwriadau da, ni allaf gefnogi gwelliannau 34 i 45.