Part of the debate – Senedd Cymru am 2:32 pm ar 10 Chwefror 2021.
A dyna ni, dyna ddiwedd y pleidleisiau ar y Cyfnod 3 yma. Dŷn ni wedi cyrraedd y diwedd, felly, o'r ystyriaeth o Gyfnod 3 o'r Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru), a dwi'n datgan y bernir pob adran o'r Bil a phob Atodlen iddo wedi eu derbyn. Daw hynny felly â'n trafodion ni ar Gyfnod 3 i ben, ac fe wnaf i atal y cyfarfod dros dro, ac fe wnawn ni ailgychwyn am 2.40 p.m.. Atal y cyfarfod felly.