Part of the debate – Senedd Cymru am 5:10 pm ar 24 Chwefror 2021.
Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf heno ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, sef Bil Iaith Arwyddion Prydain, BSL. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Mark Isherwood. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, 15 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.