Part of the debate – Senedd Cymru am 5:16 pm ar 24 Chwefror 2021.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi rhywfaint o fy amser i Hefin David ac i Angela Burns.
Testun fy nadl fer yw adolygiad Cumberlege—gwersi ar gyfer cydsyniad ar sail gwybodaeth yn y GIG. Hoffwn ddechrau drwy ganmol yr awdurdod a threiddgarwch yr adolygiad a gynhaliwyd gan y Farwnes Cumberlege, o'r enw 'First Do No Harm'. Dyna egwyddor hynaf meddygaeth foesegol, a chredaf ei bod yn briodol inni gadw hynny mewn cof pan ystyriwn y materion sydd ger ein bron yn y ddadl hon. Er iddo gael ei gomisiynu gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Llywodraeth y DU a'i fod yn canolbwyntio'n bennaf ar y GIG yn Lloegr, cymerwyd tystiolaeth yng Nghymru a'r Alban, ac yn wir, mae'n debyg fod llawer ohonom wedi bod â rhywfaint o waith achos gan dystion a roddodd dystiolaeth yng Nghymru; fe gefais i waith achos o'r fath yn sicr.
Ymchwiliodd yr adolygiad i'r hyn a ddigwyddodd mewn perthynas â dwy feddyginiaeth ac un ddyfais feddygol, sef profion beichiogrwydd hormonaidd, a waharddwyd o'r farchnad ar ddiwedd y 1970au ac y credir eu bod yn gysylltiedig â namau geni a chamesgoriad; sodiwm falproat, cyffur gwrthepileptig effeithiol, sy'n achosi camffurfiadau corfforol, awtistiaeth ac oedi datblygiadol mewn llawer o blant pan gaiff ei gymryd gan eu mamau yn ystod beichiogrwydd; a mewnblaniadau rhwyll y pelfis a ddefnyddir mewn llawdriniaethau i atgyweirio prolaps organau'r pelfis ac i reoli anymataliaeth straen wrinol y cysylltwyd eu defnydd â chymhlethdodau andwyol sy'n newid bywydau. Fodd bynnag, cydnabuwyd yn eang fod yr adolygiad yn berthnasol a bod modd ei gymhwyso i ddiogelwch meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol yn gyffredinol.
Un o'r pethau y gofynnwyd i'r adolygiad ei ystyried oedd sut i gryfhau llais y claf, nad oedd yn cael ei glywed ac a oedd yn arwain at ddewisiadau a chanlyniadau gwael. Un o argymhellion canolog yr adroddiad yw sefydlu comisiynydd diogelwch cleifion. Fel y dywed yr adroddiad, ac rwy'n dyfynnu,
Roedd straeon y cleifion yn ysgytwol.... Gwnaethant adrodd eu hanesion gydag urddas a huodledd, ond hefyd gyda thristwch a dicter, i dynnu sylw at themâu cyffredin a chymhellol.
A'r thema—y thema gryfaf, gellid dadlau—rwyf am ei harchwilio heddiw yw'r diffyg gwybodaeth i allu gwneud dewisiadau ar sail gwybodaeth ac felly i roi cydsyniad ar sail gwybodaeth.
Mae arloesi mewn gofal meddygol wedi dod â rhyddhad mawr i filiynau ac wedi achub llawer o fywydau, ond fel y dywed yr adroddiad, heb brofion cynhwysfawr cyn eu cyflwyno i'r farchnad a goruchwyliaeth ar ôl eu cyflwyno i'r farchnad a monitro canlyniadau yn hirdymor, gall arloesi fod yn beryglus. Mae'r diffyg gwybodaeth sylfaenol yn syfrdanol. Nid yw'r GIG yn gwybod faint o fenywod sydd wedi cael llawdriniaethau rhwyll, nid yw'n gwybod faint o fenywod beichiog a gymerodd y cyffur gwrthepileptig sodiwm falproat. Fel y casgla'r adroddiad,
Yn niffyg gwybodaeth o'r fath, mae'n amhosibl gwybod faint o fenywod fyddai wedi dewis math gwahanol o driniaeth... mae'n drueni na fyddent wedi cael y wybodaeth roeddent ei hangen i wneud dewis ar sail y wybodaeth lawn.
Ac rwy'n credu bod hwnnw'n gasgliad damniol.