Part of the debate – Senedd Cymru am 5:31 pm ar 24 Chwefror 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i David Melding, Angela Burns a Hefin David am eu cyfraniadau heddiw, am natur feddylgar y cyfraniadau hynny, a'r modd y cawsant eu rhoi ar bwnc sy'n anodd, yn peri gofid ac yn newid bywydau. Ac rwy'n cydnabod yr hyn y mae Angela Burns wedi'i ddweud am y gogwydd a'r heriau sy'n ymwneud ag iechyd menywod, ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen ar bynciau eraill. Credaf fod gennym her arbennig gyda hanes ein GIG sy'n dal gyda ni; roedd hynny'n rhan o'r rheswm pam y sefydlais y grŵp iechyd menywod, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu materion lle mae angen gwelliant.
A chomisiynwyd yr adolygiad annibynnol o ddiogelwch meddyginiaethau a dyfeisiau meddygol, a adwaenir yn awr yn gyffredinol fel adroddiad Cumberlege, ac a gyhoeddwyd, fel y dywedodd David Melding, ym mis Gorffennaf y llynedd, sef 'First Do No Harm', gan yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol dros Iechyd yn Llywodraeth y DU, ond cymerodd yr adolygiad hwnnw dystiolaeth o bob rhan o'r DU, ac mae llawer o'r hyn sydd ganddo i'w ddweud yn berthnasol yma yng Nghymru.
O ran y tri mater, y profion beichiogrwydd megis Primodos, effaith sodiwm falproat yn enwedig, fel y dywedwyd, ar blentyn cyn ei eni yn ystod beichiogrwydd, a dyfeisiau meddygol oedd y materion penodol a arweiniodd at yr adroddiad, ond mae llawer i'w ddysgu'n fwy eang yma, a chredaf ei bod yn gwbl briodol fod David Melding wedi canolbwyntio ar gydsyniad ar sail gwybodaeth.
Roedd ffocws yr adolygiad yn edrych yn fwy cyffredinol ar ddiogelwch cleifion er mwyn adeiladu system sy'n gwrando, yn clywed ac yn gweithredu gyda chyflymder, tosturi a chymesuredd. Dyna lawer o'r hyn a ddywedwn am ein GIG ar ei orau—pa mor gyflym y caiff triniaethau newydd eu cyflwyno, tosturi ein staff a her dull sy'n seiliedig ar risg o ddarparu gofal a thriniaeth, ac rydym yn byw drwy lawer o hynny yn awr. Ond pan fyddwch yn cael hynny'n anghywir, rydym hefyd yn gwybod y gall yr effaith fod yn sylweddol i'r sawl sy'n cael triniaeth.
Nododd yr adroddiad gydsyniad fel thema gyffredinol, a nododd y cyfleoedd a gollwyd lle gellid bod wedi atal niwed y gellid ei osgoi, ac y dylid mynd i'r afael ag ef. Ac mae'n nodi y dylai cleifion gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt ar ffurf y gallant ei deall i wneud penderfyniadau, gan gynnwys ar lawdriniaethau, triniaethau, yr opsiynau sydd ar gael, yn cynnwys dim triniaeth, y risgiau yn y tymor hir a'r tymor byr o ganlyniadau andwyol, a'r triniaethau adferol amgen sydd ar gael. Fel y nododd David Melding, mae'n cydnabod yr angen am daflenni gwybodaeth clir, cyson ac ystyrlon er mwyn osgoi dryswch, a'r angen am un cymorth penderfynu i gleifion ar gyfer pob llawdriniaeth lawfeddygol neu ymyrraeth feddygol. Roedd hefyd yn argymell mwy o ddefnydd o ffynonellau gwybodaeth nad ydynt yn rhai ysgrifenedig.
Er hynny, nid yw'r gofyniad i glinigwyr ofyn am gydsyniad ar sail gwybodaeth neu gydsyniad ystyrlon yn gyflym yn deillio o adroddiad Cumberlege. Mae iddo hanes hirsefydlog yn ein GIG, gan gynnwys yma yng Nghymru. Cyhoeddodd llywodraeth flaenorol Cymru ganllawiau i glinigwyr yn 2008 ar y pwnc hwn. Ysgrifennodd y prif swyddog meddygol at glinigwyr eto ar y mater yn 2014, pan gafwyd yr arwyddion cyntaf fod rhai a oedd wedi cael mewnblaniadau rhwyll yn profi cymhlethdodau.
Atgyfnerthwyd canllawiau Llywodraeth Cymru i adlewyrchu dyfarniad achos Montgomery v Swydd Lanarkshire yn 2015, achos y cyfeiriodd David Melding ato, ac unwaith eto symudodd hynny ffocws cydsyniad tuag at angen penodol y claf. Nawr, aeth hwnnw drwy'r pwyntiau fod archwiliadau a thriniaeth yn cael eu rhannu rhwng clinigwyr a chleifion, a chroesawodd yr egwyddor o ofal sy'n canolbwyntio ar y claf a chydgynhyrchu—yr un math o bethau a welwn yn ein dull gofal iechyd darbodus ac yn ganolog yn ein cynllun, 'Cymru Iachach'. Rydym wedi bod â model o bolisi cydsyniad ar sail gwybodaeth ers 2017, wedi'i gefnogi gan gylchlythyr iechyd yng Nghymru, a chanllawiau, a oedd yn ymgorffori dyfarniad Montgomery, ac a gâi eu cefnogi gan glinigwyr ym mhob un o'n byrddau iechyd.
Mae cydwasanaethau cronfa risg GIG Cymru yn cydlynu grŵp cydsyniad Cymru gyfan i gefnogi'r gwaith o ddatblygu dull unedig ar draws yr holl fyrddau iechyd ar faterion cydsynio. Mae'r grŵp hwnnw wedi cynhyrchu pecynnau hyfforddiant ac addysg wedi'u hadnewyddu ar gyfer clinigwyr ledled Cymru, gan gynnwys system e-ddysgu, cyfres o weminarau, a chyflwyniadau. Mae'r rhain i gyd wedi'u cynllunio i sicrhau bod clinigwyr yn cael yr hyfforddiant diweddaraf ar faterion cyfreithiol ac arferion cydsyniad da. Galwodd adolygiad Cumberlege yr ystod eang a nifer y taflenni gwybodaeth i gleifion yn 'ddryslyd' ac yn 'ffynhonnell dryswch mawr'. Unwaith eto, tynnodd David Melding sylw at hyn yn ei gyfraniad. Er mwyn osgoi hyn, mae cronfa risg Cymru wedi mabwysiadu dull mwy safonol ac wedi comisiynu ymgyrch glir ar gyfer Cymru gyfan, wedi'i hawdurdodi'n broffesiynol, a'i hadolygu'n glinigol, a ddylai gefnogi taflenni gwybodaeth i gleifion, ac mae cronfa risg Cymru wedi comisiynu rhaglen beilot o blatfformau cydsyniad digidol yn ddiweddar o fewn nifer o sefydliadau GIG Cymru. Os bydd yn llwyddiannus, ac rwy'n disgwyl y bydd, fe fydd yn arwain at gyflwyno ymarfer caffael i Gymru gyfan i'w gyflwyno i holl fyrddau iechyd Cymru, ac nid mater o ddewis fydd hynny. Gwneir penderfyniad, a bydd hwnnw'n blatfform cenedlaethol y bydd yn rhaid i bawb ei ddefnyddio.
Dylai'r platfform newydd roi mynediad at wybodaeth i gleifion sy'n dioddef gwahanol fathau o gydafiachedd a fydd yn cwmpasu eu gofynion triniaeth unigol, er mwyn symud oddi wrth y ffynonellau gwybodaeth generig a nodwyd ac a feirniadwyd gan adroddiad Cumberlege. Dylai'r platfform newydd gefnogi newid o gydsyniad ar sail gwybodaeth i ddull o wneud penderfyniadau ar y cyd, lle mae cleifion yn gyfranogwyr gweithredol ac nid yn dderbynwyr yn unig: cyfranogwyr gweithredol gyda chlinigwyr yn y broses o benderfynu ar eu triniaeth yn y dyfodol, yn seiliedig ar fynediad at gyngor a gwybodaeth berthnasol, a chyswllt â phobl sydd wedi profi llawdriniaethau clinigol tebyg o bosibl. A dyma'r hyn y mae Cumberlege yn ei alw'n bartneriaeth wirioneddol gydradd. Yn olaf, mae'r gronfa risg yn bwriadu cynnal adolygiad cenedlaethol o'r trefniadau ar gyfer cydsyniad ar sail gwybodaeth, i sefydlu eu heffeithiolrwydd, nodi meysydd i'w datblygu, a phennu cyfeiriad yn y dyfodol. Mae'r adolygiad wedi'i ohirio gan y pandemig, ond bydd yn dechrau ym mis Ebrill eleni a disgwylir iddo adrodd i'r Llywodraeth newydd.
Rwyf am orffen drwy ymdrin â rhai o'r cwestiynau a'r pwyntiau a godwyd, ac ar wella diogelwch cleifion a gwella canlyniadau cleifion, ar ddyfeisiau, fel y gŵyr yr Aelodau, rydym wedi cydsynio i system ledled y DU i gyflwyno cofrestr dyfeisiau. Dylai hynny ganiatáu ar gyfer olrhain yn ôl i ddeall diogelwch dyfeisiau'n gliriach, a chredaf y bydd yn gam sylweddol ymlaen o ran diogelwch cleifion, a deall canlyniadau cleifion ar gyfer gwahanol ddyfeisiau. Wrth gwrs, mae mwy i'w wneud, a gallwch ddisgwyl ymateb llawnach yn y tymor hwn cyn i'r Senedd ddod i ben, i ddatblygu sut y mae modd i welliant cyfatebol i'r hyn a ragwelwyd gan y comisiynydd diogelwch cleifion a argymhellwyd yn Lloegr gael ei wneud yma yng Nghymru. Mae ein system wedi'i sefydlu mewn ffordd wahanol, ac felly bydd ein hateb ychydig yn wahanol ond mae'r nod yr un fath: sut y mae gwella diogelwch cleifion yn ymarferol a chael ffordd fwy gweladwy o sicrhau'r diogelwch hwnnw?
Mae fy sylw olaf yn adlewyrchu'r tristwch a'r dicter i bobl sydd wedi cael eu siomi: y bobl na wrandawyd arnynt, y bobl a gafodd eu niweidio, a'r amser y mae wedi'i gymryd i ymateb. Nid yw'r ymateb hwnnw wedi'i gwblhau eto, ond rwy'n cadarnhau y byddwn yn gwneud mwy yn y tymor hwn, a bydd gan bwy bynnag a fydd yn y Llywodraeth nesaf fwy i'w wneud eto â'r newidiadau y bwriadwn eu gwneud i sicrhau eu bod yn cyflawni'r gwelliant nid yn unig o ran cydsyniad ond o ran canlyniadau cleifion a diogelwch cleifion.