Part of the debate – Senedd Cymru am 5:53 pm ar 24 Chwefror 2021.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch, Llyr, am gyflwyno'r pwnc hwn i'w drafod yn y ddadl fer heddiw. A hoffwn innau hefyd, unwaith eto, gydymdeimlo â theuluoedd criw'r Nicola Faith ar yr adeg anodd hon.
Wrth sôn am ddyfodol y diwydiant pysgota morol, mae'n amhosibl anwybyddu'r problemau sy'n wynebu'r sector ar hyn o bryd. Mae ein diwydiant bwyd môr wedi cael ei daro'n ddifrifol ar nifer o lefelau o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r effeithiau i'w teimlo ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan yng Nghymru, ac rwy'n falch bod Llywodraeth y DU bellach wedi gwrando o'r diwedd ar fy ngalwadau niferus i sicrhau bod y sector cyfan yn cael cymorth ariannol. Mae'n anffodus ei bod wedi cymryd chwe wythnos ers i mi ysgrifennu gyntaf a chyfarfod â'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig cyn iddo weithredu. Fy ngobaith yw y bydd y cymorth hwn yn cyrraedd busnesau mewn angen cyn ei bod yn rhy hwyr.
Mae hefyd yn destun gofid nad yw Llywodraeth y DU yn dangos unrhyw barch at y setliad datganoli wrth ddewis gweinyddu'r cynllun yn uniongyrchol yn hytrach na chyllido yn y ffordd arferol, gyda symiau canlyniadol perthnasol ar gyfer y gweinyddiaethau datganoledig. Fel y dangoswyd gan ein grant pysgodfeydd yng Nghymru, gwyddom y gallwn weinyddu arian i bysgotwyr yn gyflym, yn effeithlon ac yn effeithiol. Rhaid i Lywodraeth y DU wneud yr un peth yn awr neu gallai pysgotwyr Cymru wynebu caledi pellach, wedi'i sbarduno gan oedi ac anfedrusrwydd.
Nos Lun, mewn cyfarfod gyda George Eustace, ailadroddais ei bod yn ymddangos ei fod bellach yn benderfynol o erydu blynyddoedd o ffyrdd cydweithredol da o weithio rhwng pob gweinyddiaeth pysgodfeydd yn y ffordd y mae wedi ymateb i'r cytundeb masnach a chydweithredu ers dechrau'r flwyddyn hon. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r diwydiant ac yn gweithio gyda'r gweinyddiaethau eraill i ddod o hyd i atebion, lle bo modd, i'r problemau presennol. Fodd bynnag, mae'r cytundeb masnach a chydweithredu yn llai o lawer na'r hyn a addawodd Llywodraeth y DU, ond rydym yn ceisio gwneud y gorau ohono a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i'n pysgotwyr. Rwyf wedi dweud yn glir iawn wrth yr Ysgrifennydd Gwladol ei bod yn hanfodol fod pysgotwyr Cymru yn cael eu cyfran deg o'r cwota ychwanegol cymedrol a ddarperir gan y cytundeb masnach a chydweithredu.
Rydym yn parhau i ymateb i anghenion uniongyrchol y diwydiant, ac er ei bod yn amlwg fod Llywodraeth y DU wedi methu cyflawni ei haddewidion niferus ar bob lefel i'n pysgotwyr am fôr o gyfleoedd i'r diwydiant, gallwn ni yng Nghymru ddatblygu dyfodol disglair i'r diwydiant—un sy'n seiliedig ar ecosystemau, sydd â chynaliadwyedd yn ganolog iddo, ac sy'n seiliedig ar ddull rheoli addasol, wedi'i gydgynllunio â'r diwydiant.
Rydym wedi ymrwymo i gyflawni polisi pysgodfeydd ôl-UE i Gymru, wedi'i gynllunio gyda rhanddeiliaid i adlewyrchu anghenion sector pysgodfeydd modern Cymru, ac i reoli'r effaith ar yr amgylchedd. Wrth wraidd hyn ceir polisi pysgodfeydd sy'n cydnabod yr angen i gael mwy o fudd i'n cymunedau arfordirol, gan sicrhau ar yr un pryd y gall ein stociau barhau i ddarparu manteision i genedlaethau'r dyfodol, gan feithrin cydnerthedd yn awr ac ar gyfer y dyfodol. Rhaid inni edrych tua'r dyfodol, nid yn unig er mwyn manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd a rheoli ein stociau'n gynaliadwy, ond hefyd i feithrin cryfder a gwydnwch yn ein diwydiant a'r marchnadoedd sydd ar gael iddynt. Mae hyn mor bwysig ag erioed, wrth inni helpu'r diwydiant i wella o effeithiau pandemig COVID-19, yn ogystal ag effeithiau gadael yr UE.
Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ym mis Medi y llynedd, ac mae'r canlyniadau a'r safbwyntiau yn ymgynghoriad 'Brexit a'n Moroedd' yn dal i fod mor ddilys a phwysig ag erioed. Mae'r rhain yn cynnwys rheoli ein pysgodfeydd mewn ffordd gynaliadwy, darparu ar gyfer diwydiant pysgota ffyniannus, yn ogystal â chynnal bioamrywiaeth ein moroedd ac ystyried effeithiau newid hinsawdd. Mae'r angen i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth gadarn yn glir hefyd. Yn ogystal â physgodfeydd sy'n cael eu rheoli'n dda, mae angen inni edrych hefyd ar ba seilwaith sydd ei angen i gefnogi ein diwydiant a helpu i wella mynediad at farchnadoedd i'n bwyd môr gwych yng Nghymru, yma yn y DU ac yn rhyngwladol. O ystyried y problemau y mae'r diwydiant yn eu profi ar hyn o bryd, mae hyn yn bwysicach nag erioed er mwyn diogelu ac adeiladu gwydnwch i'n diwydiant yn y tymor hir.
Wrth i ni symud ymlaen gyda chamau nesaf ein polisi pysgodfeydd yn y dyfodol, fel y dywedais eisoes, bydd cydgynhyrchu â rhanddeiliaid yn egwyddor graidd. Rwy'n awyddus i sicrhau bod pawb sydd â diddordeb yn cael cyfle i helpu i lunio'r dyfodol rydym am ei weld ar gyfer ein diwydiant pysgota yng Nghymru, ac yn bwysig, y modd y byddwn yn ei gyflawni. Ar lefel y DU, bydd y cyd-ddatganiad pysgodfeydd yn nodi polisïau ar gyfer cyflawni neu gyfrannu at gyflawni amcanion y pysgodfeydd fel yr amlinellir yn Neddf Pysgodfeydd 2020. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni'r amcanion—dyna yw conglfeini rheolaeth fodern ar bysgodfeydd. Maent yn gosod cynaliadwyedd ar y blaen ac yn y canol, ac ynghyd â'n Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, maent yn rhoi cyfeiriad clir inni ar gyfer rheoli ein pysgodfeydd yn gynaliadwy. Bydd y cyd-ddatganiad pysgodfeydd hefyd yn nodi ein defnydd arfaethedig o gynlluniau rheoli pysgodfeydd, sy'n arf pwysig i gyflawni'r amcanion. Gallwn sicrhau cynaliadwyedd hirdymor drwy gydbwyso'r holl amcanion. Gan adlewyrchu ein hymrwymiad i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid ar y cyd-ddatganiad pysgodfeydd, sefydlwyd cymuned fuddiant ledled y DU, ac rwy'n croesawu cyfraniad cadarnhaol rhanddeiliaid o Gymru hyd yma i helpu i lywio datblygiad y datganiad.
Rydym wedi cymryd y camau cyntaf tuag at bolisi pysgodfeydd i Gymru yn y dyfodol, ond rwyf am fod yn glir: nid ateb cyflym yw hwn; nid yw'n bolisi y gellir ei ddatblygu dros nos. Bydd yn cymryd amser ac ymdrech i gyrraedd lle rydym am i'n sector fod, ac mae angen inni fod yn glir fod yn rhaid i ni ganolbwyntio yn awr ar argyfwng deublyg COVID-19 a gadael yr UE. Ond yn amlwg, mae dyfodol pysgota yng Nghymru yn gadarnhaol, ac mae gennym gyfle i ddatblygu ein sector yn un ffyniannus, cynaliadwy sy'n cefnogi ein cymunedau arfordirol. Diolch.