Part of the debate – Senedd Cymru am 1:02 pm ar 24 Chwefror 2021.
Diolch, Llywydd. Ym mis Chwefror 2019, gwnaethon ni fel Senedd Ieuenctid ddewis sbwriel a gwastraff plastig fel un o'n prif faterion. Rydym ni fel Aelodau wedi bod yn siarad o fewn ein hetholaethau gyda sefydliadau partner, mewn eisteddfodau ac o fewn y cyfarfodydd preswyl a rhanbarthol i geisio deall barn pobl ifanc am y broblem. Yn anffodus, gwthiodd COVID bopeth ar-lein ac felly fe gasglom ni'n holl ddata yn ogystal â chreu'r adroddiad yn ystod y pandemig. Er gwaethaf hyn, fe wnaethom ddyfalbarhau yn rhithiol gyda digwyddiadau megis Wythnos y Senedd Ieuenctid, a bu'r Eisteddfod Genedlaethol yn ein helpu i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.
Ym mis Tachwedd 2020, fe gyhoeddom ein hadroddiad fel pwyllgor a oedd yn cynnwys 10 argymhelliad. Galwom am fwy o bwyslais ar addysgu pobl ifanc ar draws Cymru am effeithiau negyddol sbwriel a gwastraff plastig, a sut gallai pobl ifanc helpu i fynd i'r afael â'r materion hyn. Credwn y dylai awdurdodau lleol adolygu eu prosesau caffael er mwyn sicrhau bod y meini prawf sydd ar waith i ddewis cyflenwyr yn adlewyrchu amcanion amgylcheddol a llesiant. Mae hyn yn cynnwys ysgolion, er mwyn sicrhau y gall sefydliadau addysg gefnogi’r gwaith o gyflawni targedau cynaliadwyedd. Y nod yn y pen draw fydd i leihau cymaint o wastraff plastig untro â phosib. Galwn hefyd ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau sylweddol ar frys i roi diwedd ar gynhyrchu plastigau untro, gyda rhai eithriadau hanfodol, ac ystyried dulliau gweithredu fel gwahardd cynhyrchu plastigau untro megis cynllun dychwelyd ernes.
Hoffwn ddiolch i’r Gweinidog dros yr amgylchedd am ei hymateb i’n hargymhellion. Dengys hyn i bobl ifanc ar draws Cymru bod ein lleisiau wir yn cael eu cymryd o ddifri. Er hyn, mae’r broblem blastig yn amlwg ddim drosodd, felly mae angen symud ymlaen efo'r agenda a sicrhau ei fod yn fater o bwys i'r Senedd nesaf. Mi fyddai hefyd yn wych i weld Senedd ddi-blastig—rhywbeth a fyddai eto'n pwysleisio pwysigrwydd ein gwaith ac a fyddai'n gosod esiampl i sefydliadau eraill ein dilyn. Galwn am weithredu pendant ac ar frys, o fewn y chwe mis i'r flwyddyn nesaf.
Yn olaf, hoffem hefyd alw ar y Senedd Ieuenctid nesaf i barhau i alw am newidiadau yn ôl ein hargymhellion ni. Rydym ond wedi cael tymor o ddwy flynedd, ond, yn yr amser hwn, rydym wedi sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed a bod y broblem blastig yn cael ei chymryd o ddifri. Ein hunig obaith nawr yw eich bod chi i gyd yn parhau i wella’r broblem a chadw ein gwaith yn fyw. Diolch.