1. Eitem ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 12:58 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

(Cyfieithwyd)

Diolch, Lywydd. O ddechrau ein hamser fel Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, rydym wedi gweld pwysigrwydd ac arwyddocâd iechyd meddwl ym mywydau pobl ifanc ledled Cymru, gyda 36 y cant o'r bobl ifanc a ymatebodd i'n harolwg cyntaf un yn nodi cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl fel un o'u prif flaenoriaethau. Gyda chefnogaeth dros ddwy ran o dair o Senedd Ieuenctid Cymru, gwnaethom ffurfio ein pwyllgor cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl ar ôl ein cyfarfod preswyl cyntaf, ac mae'n cynnwys 26 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru o bob rhan o Gymru. Ers sefydlu'r pwyllgor, rydym ni fel Aelodau wedi ymgysylltu â phobl ifanc, elusennau iechyd meddwl, arbenigwyr a gwleidyddion, gyda'r nod o bwysleisio'r angen am well cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru.

Mae ein cyfarfodydd preswyl wedi rhoi cyfleoedd inni gael trafodaethau gyda rhai o'r bobl fwyaf dylanwadol ym maes iechyd meddwl yng Nghymru, ac maent hefyd wedi caniatáu inni glywed am y gwaith pwysig a wneir gan y Pwyllgor Plant, Pobol Ifanc ac Addysg i gefnogi iechyd meddwl pobl ifanc. Yn ogystal, rhoddodd y cyfarfodydd hyn le inni gymryd rhan mewn sesiwn holi ac ateb gyda phobl ifanc i dynnu sylw at yr angen am sgyrsiau ynghylch iechyd meddwl. Yna, bu modd inni barhau â'r drafodaeth hon wrth inni gynnal ein digwyddiad Gadewch i ni Siarad am Iechyd Meddwl yn ystod Wythnos Senedd Ieuenctid Cymru, gan roi cyfle i bobl ifanc rannu eu barn ar y ddarpariaeth iechyd meddwl yng Nghymru. Bu’r wybodaeth hon, ynghyd â chanlyniadau ein harolygon cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, a gwblhawyd gan dros 1,400 o bobl ifanc ledled Cymru, o gymorth i lywio ein cyfarfodydd rhanbarthol a’n pwyllgorau. Ar draws pob un o'r pedwar rhanbarth, amlygwyd themâu allweddol stigma, hyfforddiant, gofal ataliol a chyfathrebu, gan ddangos yr angen am ddatblygiad a thwf o ran iechyd meddwl yng Nghymru. Yn y pen draw, ffurfiodd y themâu hyn sylfaen i’n hadroddiad a'n hargymhellion, a gyhoeddwyd ar 9 Hydref 2020.

Wedi'i rannu'n ddau gategori, un yn ymwneud â gwybodaeth ac ymwybyddiaeth a'r llall yn ymwneud â rhwystrau i gymorth, mae adroddiad ein pwyllgor, ‘Gadewch i ni Siarad am Iechyd Meddwl’, yn adleisio barn a phryderon pobl ifanc ledled Cymru. O wella ansawdd gwybodaeth i gynnig mwy o wasanaethau cymorth anhysbys a gwasanaethau gwell, mae ein hargymhellion yn cydnabod bod gan bob unigolyn ifanc iechyd meddwl. Er ein bod yn credu bod pob un o'n hargymhellion yr un mor bwysig o ran gwella iechyd meddwl ac iechyd emosiynol yng Nghymru i bobl ifanc, mae rhai argymhellion allweddol yr hoffem dynnu sylw atynt fel pwyllgor.

Mae ein pedwerydd argymhelliad yn crynhoi'r angen am siop un stop o wybodaeth, adnoddau a chymorth ynghylch iechyd meddwl. Rydym ni fel pwyllgor yn falch iawn o glywed am ymdrech Llywodraeth Cymru i ddatblygu hyn dros blatfform Hwb, gan ein bod yn credu bod hynny’n dangos dealltwriaeth o bwysigrwydd iechyd meddwl pobl ifanc, yn enwedig yn ystod y cyfnod anodd hwn. Serch hynny, hoffem bwysleisio ymhellach yr angen i hyrwyddo'r adnodd hwn yn well, gan sicrhau bod pob plentyn ledled Cymru nid yn unig yn ymwybodol o'i fodolaeth, ond yn teimlo'n gyfforddus i ddod o hyd i'r wybodaeth.

Hoffem dynnu sylw hefyd at ein chweched argymhelliad: yr angen i addysgu iechyd meddwl yn gyson ledled Cymru a gwneud hynny'n fwy mynych. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r cyfle i addysg iechyd meddwl ddod law yn llaw â datblygiad y cwricwlwm newydd, ond rydym yn pryderu ynghylch pa mor gyson y bydd y ddarpariaeth honno. Mae'n hanfodol fod gan bobl ifanc ledled Cymru fynediad at addysg iechyd meddwl o’r un ansawdd, ni waeth beth yw eu lleoliad neu eu cefndir, ac mae’n rhaid inni gwestiynu, felly, sut y gellir sicrhau bod hyn yn digwydd o fewn y cwricwlwm newydd. Mae’n rhaid i gysondeb fod wrth wraidd addysg iechyd meddwl ledled Cymru.

Yr argymhelliad olaf yr hoffem dynnu sylw ato yw'r angen am adolygiad brys o wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a gwasanaethau cymorth iechyd meddwl eraill. Unwaith eto, mae'n wych clywed bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn gweithio ar y mater hwn, gan roi £8 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn i wella gwasanaethau CAMHS. Fodd bynnag, rydym ni fel pwyllgor yn galw am adolygiadau a diweddariadau cyson mewn perthynas â’n gwasanaethau iechyd meddwl yma yng Nghymru. Mae'n hanfodol nad ydym yn llaesu dwylo. Ni cheir un ateb syml i wella gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru, ac felly, mae dadansoddi ac adolygu cyson yn wirioneddol hanfodol i helpu i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc ledled Cymru.

Mae gan bob unigolyn ifanc iechyd meddwl, ac mae'n hanfodol fod polisïau ein Llywodraeth a'n Senedd yn y dyfodol yn adlewyrchu hyn. Mae'n rhaid inni barhau i baratoi'r ffordd ar gyfer gwell cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl i bobl ifanc ledled Cymru, ac fel pwyllgor, gobeithiwn y bydd gwaith Senedd Ieuenctid nesaf Cymru, Aelodau'r chweched Senedd a Llywodraeth newydd Cymru yn blaenoriaethu’r mater hwn. Diolch.