1. Eitem ar y cyd â Senedd Ieuenctid Cymru

Part of the debate – Senedd Cymru am 1:11 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

(Cyfieithwyd)

Mae pobl yn aml yn gofyn i mi a fyddwn yn newid unrhyw beth pe bawn yn gallu mynd yn ôl mewn amser. Ac yn syml, na fyddwn. Ddim o gwbl. Byddwn yn sefyll etholiad, a byddwn yn bachu ar bob cyfle dro ar ôl tro. Rwyf wir yn ei olygu pan ddywedaf mai'r ddwy flynedd ddiwethaf yn fy mywyd fu'r rhai gorau eto. Drwy gyfnodau da a rhai cyfnodau gwael, rwyf wedi cyfarfod â phobl anhygoel, wedi datblygu cyfeillgarwch y byddaf yn ei thrysori am byth gyda gwahanol bobl ac wedi cael profiadau bythgofiadwy.

Mae eleni wedi bod yn her fawr i bob un ohonom, yn bersonol ac yn broffesiynol. Mae COVID-19 wedi effeithio ar ein bywydau i raddau mwy nag y gallai unrhyw un fod wedi'i ddychmygu. A heb os, mae wedi bod yn anodd. Ond serch hynny, mae ein Senedd Ieuenctid Cymru—y gyntaf o'i bath—wedi dangos bod pobl ifanc yn rym er daioni yn ein gwlad ni a thu hwnt.

Hoffwn ddefnyddio’r foment hon i ddiolch i bob un ohonoch, fy nghyd-Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru, y staff y tu ôl i'n gwaith, y staff y tu ôl i'r dechnoleg hyd yn oed—ac yn enwedig heddiw—ac yn bwysicaf oll, pob un ohonoch chi, Aelodau ein Senedd.

Ar 26 Mehefin 2019, cynhaliwyd ein sesiwn gyntaf ar y cyd yn y Siambr, ac yn y sesiwn honno, cefais y fraint o roi’r sylwadau agoriadol, a darllenais ddatganiad i chi a fyddai’n siapio, ac sydd wedi siapio, ein perthynas. Rwy'n sicr y byddaf yn cofio’r diwrnod hwnnw am byth, ac mae'n foment rwy’n ymfalchïo'n fawr ynddi, a gwn y byddaf yn parhau i wneud hynny.

Unwaith eto, hoffwn dynnu eich sylw at rai o'r pwyntiau a amlinellir yn y datganiad hwnnw. Mae'n nodi y bydd Senedd Cymru a Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod ein gwaith yn rhan annatod o’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru, ac y bydd Senedd Cymru yn ymrwymo i hawliau pobl ifanc ac yn gweithredu ar egwyddorion didwylledd a thryloywder.

Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r Aelodau o'r Senedd sydd wedi ymrwymo i ymgysylltu â ni, ac nid yn unig i glywed ein lleisiau, ond i wrando arnom. Yn ystod ein tymor, rydym wedi darparu llawer o argymhellion realistig i chi ar sicrhau bod pobl ifanc wedi'u paratoi ar gyfer eu bywydau, ar gymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, ac ar ddiogelu ein hunig blaned.

Mae'n hanfodol eich bod chi, fel Senedd Cymru, yn parhau i weithio gyda phobl ifanc o bob cwr o'r wlad. Gyda Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wedi'i ymgorffori yng nghyfraith Cymru, mae'n ddyletswydd arnoch i wrando ar ein barn. Mae Senedd Ieuenctid Cymru yn dystiolaeth o'ch ymrwymiad i erthygl 12, sy'n nodi bod gan bobl ifanc hawl i fynegi eu barn yn rhydd, ac i'w barn gael ei hystyried o ddifrif.