Part of the debate – Senedd Cymru am 1:18 pm ar 24 Chwefror 2021.
Diolch, Lywydd. Mae'n fraint dweud ychydig eiriau ar ran yr wrthblaid swyddogol, grŵp y Ceidwadwyr Cymreig, yn dilyn cyfraniadau mor huawdl a meddylgar gan bob un o'n Haelodau etholedig o’r Senedd Ieuenctid.
Rwy'n teimlo cysylltiad cryf ag Aelodau ein Senedd Ieuenctid, gan mai fi oedd seneddwr ieuengaf y DU pan gefais fy ethol i'r Senedd, Cynulliad Cymru ar y pryd, yn ôl yn 2003 a minnau’n 24 oed. I mi, sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru yw cyflawniad mwyaf amlwg y tymor seneddol hwn a bydd yn sefyll allan fel un o lwyddiannau mawr Cymru ers 1999.
Yn ystod yr ychydig dros ddwy flynedd ddiwethaf, mae Aelodau’r Senedd Ieuenctid wedi gwneud cyfraniad rhagorol i fywyd cyhoeddus yng Nghymru, ond yn fwy gweladwy na hynny, maent wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar ddeddfu yn y Senedd hon. Pan fuom yn trafod y Cwricwlwm newydd i Gymru yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y cyfraniadau mwyaf pwerus oedd y rhai gan bobl ifanc eu hunain, gennych chi, gan rai fel Jonathon, y gallaf ei weld ar fy sgrin yn awr. Mae eich gwaith craffu a'ch ymgyrchu ar rôl sgiliau bywyd yn y cwricwlwm wedi bod yn arbennig o symbylol, ac mae fy ngrŵp yn cytuno'n llwyr y dylid cynnwys sgiliau allweddol, fel cymorth cyntaf ac iaith arwyddion Prydain, yn y cwricwlwm.
Ar fater gwastraff plastig, fel yr amlinellwyd gan Ffion-Hâf, rydych wedi siarad dros gynifer o bobl ifanc sy'n galw am newid, ac wedi cynnig awgrymiadau rhagorol. Cawsom ein cymell gan ofid ynghylch yr hyn y mae bodau dynol yn ei wneud yn raddol i'r blaned hon. A ddoe ddiwethaf, dywedodd Syr David Attenborough ein bod eisoes yn rhy hwyr mewn rhai ffyrdd i atal rhai o effeithiau mwyaf newid hinsawdd, felly mae gwir angen inni weithredu nawr, ac rydych wedi gwneud hynny'n gwbl glir.
Fel yr amlinellwyd gan Ffion, rydych wedi gwneud ymyriadau ystyrlon ac wedi codi cwestiynau pwysig ar fater iechyd meddwl pobl ifanc hefyd, rhywbeth sydd wedi bod yn fater tabŵ ers gormod lawer o amser. Mae hwn yn destun cryn bryder i bob un ohonom nawr, fel y gwelwch o'n cyfraniadau yn y Senedd ar draws y pleidiau, wrth inni boeni am yr effaith y mae cyfyngiadau symud hirfaith, cau ysgolion a’r anallu i gymdeithasu â ffrindiau yn ei chael ar bobl ifanc.
Drwy gydol y pandemig hwn, mae plant a phobl ifanc wedi aberthu cymaint, yn bennaf er mwyn cadw pobl hŷn a phobl fwy agored i niwed yn ddiogel. Yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd nesaf, wrth inni gefnu ar y pandemig hwn, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i ad-dalu'r ddyled honno a gwneud mwy o lawer i gefnogi pobl ifanc a diwallu eu hanghenion yn well. Mae gennym ni fel Aelodau o’r Senedd gyfrifoldeb i weithredu ar y materion sydd o bwys i chi, ein cenhedlaeth ieuengaf.
I gloi, Lywydd, hoffwn ddymuno'n dda i 60 Aelod Senedd Ieuenctid Cymru ym mha gyfeiriad bynnag y mae eu gyrfaoedd yn y dyfodol yn mynd â hwy, a diolch o galon iddynt am bopeth y maent wedi'i wneud. Maent yn gynrychiolwyr rhagorol i’w cenhedlaeth. Dylai pob un ohonoch fod mor falch o'ch cyflawniadau mewn cwta ddwy flynedd. Mae pob un ohonom fel Aelodau o’r Senedd o bob plaid yn falch o bob un ohonoch. Mae'n amlwg fod gennych oll ddyfodol disglair o'ch blaenau, ac rydych i gyd wedi rhoi gobaith i ni, ac edrychwn ymlaen at gyfraniadau Seneddau Ieuenctid yn y dyfodol. Diolch.