Part of the debate – Senedd Cymru am 1:26 pm ar 24 Chwefror 2021.
Diolch yn fawr, Lywydd. Un o uchafbwyntiau fy nghyfnod fel Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd oedd y cyfle i wylio'r Senedd Ieuenctid yn datblygu. Mae gweithio gyda'i Haelodau ar y gwaith craffu a wnawn fel pwyllgor ac fel Senedd wedi bod yn fraint wirioneddol, ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth nad yw sefydlu'r Senedd Ieuenctid wedi cyfoethogi'r ddadl ar bynciau pwysig yn ystod y bumed Senedd.
Heddiw, rydym wedi clywed yn uniongyrchol gan y seneddwyr ieuenctid am bopeth y maent wedi'i gyflawni ers cael eu hethol. Nid yw’n ddigon ei alw’n drawiadol. Fel y clywsom, mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi ceisio dylanwadu ar feysydd polisi allweddol, gan gynnwys diwygio'r cwricwlwm, iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, a thaflu sbwriel a gwastraff plastig. Nid yw'r rhain yn faterion bach na hawdd. Mae fy mhwyllgor wedi mynd i’r afael â dau o’r pynciau hyn, felly yn sicr, gallaf ddweud hynny o brofiad. Rydym wedi bod yn hynod ddiolchgar am fewnbwn a mewnwelediad ymholiadau ac adroddiadau'r Senedd Ieuenctid yn y meysydd hyn.
Yr un mor rhyfeddol, serch hynny, fu ei gallu i ddarparu cyfraniadau ymatebol ac amserol i faterion sy'n datblygu. Er enghraifft, cyfrannodd y Senedd Ieuenctid safbwyntiau pwysig i'n gwaith craffu ar y Bil cosb resymol, a gwyddom eich bod wedi bod yn llais pwysig yn y trafodaethau parhaus ynglŷn â sut rydym yn rheoli ac yn adfer wedi’r pandemig.
Dro ar ôl tro, rydym fel pwyllgor wedi pwysleisio pwysigrwydd clywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc am eu profiadau. Blaenoriaeth allweddol i ni oedd sicrhau bod dull o weithredu yn seiliedig ar hawliau plant yn cael ei fabwysiadu ar gyfer pob agwedd ar bolisi, deddfwriaeth a chyllid. Fel y dywedodd Maisy Evans, mae Senedd Ieuenctid Cymru yn adlewyrchiad o hawliau plant ar waith. Mae effaith COVID-19 wedi pwysleisio’n gryfach nag erioed yr angen i sicrhau bod gan ein plant a’n pobl ifanc lais a bod y llais hwnnw’n cyrraedd pob agwedd ar fywyd cyhoeddus a gwneud penderfyniadau.
Hoffwn gloi fy sylwadau gyda thri phwynt terfynol. Yn gyntaf, hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch o galon i'n 60 seneddwr ieuenctid yng Nghymru. Rydych wedi gosod esiampl a fydd yn anodd ei dilyn, ond rwy'n hyderus y bydd yn ysbrydoli eraill i ymgysylltu a chymryd rhan yn y dyfodol. Yn ail, hoffwn annog unrhyw blant a phobl ifanc sy'n gwrando i ystyried ymgeisio i fod yn rhan o’r genhedlaeth nesaf o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru. Fel y clywsoch heddiw, gallwch wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Yn olaf, hoffwn gofnodi fy niolch i dîm y staff yn y Senedd ac yn y sefydliadau partner sydd wedi gweithio mor galed i sefydlu a chefnogi gwaith y bobl ifanc hynod hyn. Mae'r flwyddyn ddiwethaf hon wedi bod yn her i bawb ym mhob ffordd, ond mae'r gwytnwch a ddangoswyd gan ein plant a'n pobl ifanc yng Nghymru, gan gynnwys Aelodau ein Senedd Ieuenctid gyntaf yng Nghymru, yn ysbrydoliaeth ac yn destun balchder i bob un ohonom. Diolch o galon ichi i gyd.