Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:44 pm ar 24 Chwefror 2021.
Diolch, Llywydd. Weinidog, mi fyddwch chi'n ymwybodol bod grŵp o sefydliadau wedi ysgrifennu at Brif Weinidog y Deyrnas Unedig ynglŷn â mesurau i warchod gweithwyr iechyd a gofal rhag y feirws. Maen nhw'n dweud bod camau i leihau trosglwyddiad o'r feirws drwy'r awyr wedi bod yn annigonol ac maen nhw'n galw am wella safon awyru ac am newid canllawiau PPE er mwyn gwarchod y gweithlu. A wnewch chi fod yn rhagweithiol wrth ymateb i'r galwadau yna a chydnabod bod ein dealltwriaeth ni o drosglwyddiad drwy'r awyr wedi newid yn fawr iawn dros y flwyddyn ddiwethaf ac y dylai negeseuo iechyd cyhoeddus, yn ogystal â chanllawiau gwarchod staff, newid i adlewyrchu hynny, yn cynnwys rhoi mwy o bwyslais ar bwysigrwydd awyr iach?