Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:39 pm ar 24 Chwefror 2021.
Rydym wedi cymryd nifer o gamau i gynorthwyo pobl i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, gan gynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer y trydydd sector a llywodraeth leol, ac ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a chymorth emosiynol. Mae ein rheoliadau hefyd yn caniatáu i bobl ffurfio aelwyd estynedig os ydynt yn byw ar eu pen eu hunain.