Darparu’r Brechlyn COVID-19 i Grwpiau Blaenoriaeth 6 i 9

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vaughan Gething Vaughan Gething Labour 2:25, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Ar ôl cyrraedd ein targed i gynnig brechiad i grwpiau blaenoriaeth 1 i 4 y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu erbyn canol mis Chwefror, rydym yn gwneud cynnydd da ar ddarparu brechlynnau i grwpiau 5 i 9. Nid yn unig ein bod yn gwneud cynnydd da eisoes, ond heddiw fe fyddwch yn gwybod bod y cyd-bwyllgor ar imiwneiddio a brechu wedi cyhoeddi cyngor wedi'i ddiweddaru mewn perthynas â grŵp 6 ar gyfer pobl ag anabledd dysgu. Rwy'n disgwyl cyhoeddi canllawiau yn ddiweddarach heddiw, ar gyfer pobl ag anableddau dysgu ac yn wir ar gyfer gofalwyr di-dâl, i egluro sut y cânt eu gwahodd a sut y byddant yn cael eu brechlynnau o fewn grŵp blaenoriaeth 6.