Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 24 Chwefror 2021.
Rwy'n disgwyl bod mewn sefyllfa i gyhoeddi cynllun adfer y GIG cyn diwedd mis Mawrth. Rwyf wedi nodi hyn o'r blaen. Bydd angen inni edrych ar adferiad yn gyffredinol, felly nid gwasanaethau gofal wedi'i gynllunio a gwasanaethau dewisol yn unig ond yn fwy cyffredinol hefyd. Mae angen inni ddisgrifio'r dull rydym yn ei gymryd a beth fydd hynny'n ei olygu i roi rhywfaint o gyd-destun i bawb am raddfa'r dasg fel y mae ac yna nodi sut rydym eisoes yn gweithio i'w gynllunio ac yna i allu ei gyflawni. Yr her o hyd fydd ein bod, erbyn diwedd mis Mawrth, yn annhebygol o fod â set ddiffiniol o gynlluniau cyflawni gan nad ydym yn rhagweld y byddwn yn ailagor ein holl wasanaethau o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol erbyn yr adeg honno, a bydd hynny'n effeithio ar raddfa'r broblem y bydd yn rhaid i unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol ei hwynebu a'i datrys. Ond rydym yn disgwyl y gallwn ddarparu canllawiau llawer cliriach ynglŷn â sut olwg fydd ar yr adferiad.