Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 24 Chwefror 2021.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Nawr, gwyddom y gall digwyddiadau trawmatig difrifol gael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl hirdymor, ac rwyf wedi nodi fy mhryderon o'r blaen nad ydym yn cyrraedd pobl nad ydynt o bosibl yn gofyn am gymorth drwy'r llwybrau rhagnodedig arferol, a dylwn ddweud nad oes unrhyw fai arnynt hwy am hynny. Felly, gyda hynny mewn golwg, sut yr awn ati'n rhagweithiol i gefnogi pobl yn fy etholaeth sydd wedi dioddef trawma llifogydd yn ddiweddar, ac na fyddant o bosibl yn adnabod nac yn sylwi hyd yn oed ar yr arwyddion fod angen cymorth arnynt?