Cymorth Iechyd Meddwl

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Nick Ramsay Nick Ramsay Conservative 2:30, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Prynhawn da, Weinidog. Weinidog, a ydych yn credu ei bod yn bosibl i ni wneud mwy—i Lywodraeth Cymru wneud mwy—i gyrraedd pobl sy'n dioddef, neu sydd o bosibl yn dioddef, o broblemau iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig? Wrth imi eistedd yma yn awr, drwy ryfeddod Zoom, gallaf weld pobl yn cerdded heibio'r ffenest yn fy mhentref. Ond siaradais ag etholwr yn gynharach sy'n byw yn un o ardaloedd mwy gwledig fy etholaeth, ac nid yw wedi gweld unrhyw un yn cerdded heibio ers misoedd, oherwydd cyfyngiadau'r pandemig. Felly, mae'n ymddangos i mi fod yna bobl nad ydynt efallai'n cael eu cyrraedd i'r graddau y gallent fod. Gwn fod eich strategaeth ar iechyd meddwl wedi bod yn edrych ar ffyrdd y gallwn gyrraedd y bobl hyn, felly a allech chi roi pwyslais arbennig ar iechyd meddwl mewn ardaloedd gwledig?