Safleoedd Gwersylla a Safleoedd Carafannau Domestig

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 2:33 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lord Dafydd Elis-Thomas Lord Dafydd Elis-Thomas Independent 2:33, 24 Chwefror 2021

Diolch yn fawr, Huw, am gwestiwn mor amserol. Rydym ni'n cadw mewn cysylltiad â’r sector—a hynny'n golygu pob sector twristiaeth—drwy’r tasglu twristiaeth, sydd yn cwrdd yn wythnosol, ac mae'r cyfarfod nesaf ddydd Gwener sy'n dod. Ac mae gyda ni hefyd, wrth gwrs, y fframwaith pedwar fforwm rhanbarthol. Mi fydd y baromedr twristiaeth yn cael ei gyhoeddi yn gynnar fis nesaf, a dwi am sicrhau bod yr wybodaeth angenrheidiol am y galw am wersylla ac am garafanau domestig yn cael ei chydnabod fel rhywbeth sy'n allweddol bwysig ar hyn o bryd.