Cefnogi'r Rhai sy'n Camddefnyddio Sylweddau

Part of 3. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of John Griffiths John Griffiths Labour 3:04, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Mae sefydliadau fel Kaleidoscope, sy'n gweithio fel rhan o brosiect cyffuriau ac alcohol Gwent, yn pryderu am yr anawsterau i sicrhau bod nifer dda o ddefnyddwyr gwasanaethau'n manteisio ar frechiadau. Mae gan eu gweithwyr rheng flaen berthynas gref iawn o ymddiriedaeth â'r defnyddwyr gwasanaeth hynny. Maent mewn cysylltiad rheolaidd â hwy ac yn deall anawsterau ffyrdd o fyw cythryblus. Weinidog, a fyddech yn cytuno bod y gweithwyr rheng flaen hynny mewn sefyllfa dda i ddarparu'r brechiadau mewn gwirionedd, o ystyried eu hyfforddiant a'u cefndiroedd a'u parodrwydd i gyflawni unrhyw hyfforddiant ychwanegol a allai fod yn angenrheidiol? Byddai caniatáu iddynt wneud hynny yn un ffordd o sicrhau bod y grŵp hwn sy'n agored iawn i niwed yn manteisio ar y brechlyn.