Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 24 Chwefror 2021.
Fel y mae Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain wedi dweud wrthym yn eu llythyr lobïo, mae Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i gyd wedi ymrwymo i gefnogi Deddf Iaith Arwyddion Prydain yn eu maniffestos etholiad cyffredinol, felly gobeithio y bydd y cynigion hyn yn cael cefnogaeth lawn heddiw. Fel Janet, dysgais rywfaint o Iaith Arwyddion Prydain sylfaenol pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad am y tro cyntaf. Mae'n ddrwg iawn gennyf, rwyf eisoes wedi anghofio cymaint, ond mae gwylio'r arwyddo yng nghynadleddau COVID Llywodraeth Cymru i'r wasg yn gwneud i mi sylweddoli pa mor bwysig ydyw ac mae hefyd yn gwneud i mi sylwi ar ei habsenoldeb yn sesiynau briffio'r DU ac rwy'n credu ei bod hi'n werth i mi dynnu sylw at hynny, fel Ceidwadwr.
Fel yr awgrymais yn fy nadl fer ar ieithoedd tramor modern ychydig wythnosau'n ôl, mae defnyddio dewis iaith neu iaith angenrheidiol person arall yn mynd ymhellach o lawer na chyfnewid gwybodaeth syml; mae'n gwneud i chi ofyn cwestiynau am eraill a chwestiynau amdanoch eich hun. Fel y dywed Mike, nid yw hynny'n wahanol yn achos Iaith Arwyddion Prydain ychwaith. Ac mae'n rhywbeth y mae'r cwricwlwm newydd yn ei groesawu, ac rwy'n gobeithio ei fod yn rhywbeth y bydd athrawon yn ei gael yn ddigon cyffrous i fod eisiau ei addysgu, oherwydd mae'n rhywbeth llawer mwy nag y mae pawb ohonom yn ei ddisgwyl efallai. Fel y dywed Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, nid iaith yn unig yw BSL, mae'n borth i ddysgu, yn llwybr tuag at ymdeimlad o hunaniaeth fyddar a'r modd y mae pobl fyddar yn goroesi ac yn ffynnu mewn byd sy'n clywed, ac mae'n siŵr y dylai hynny fod o ddiddordeb i bob un ohonom. Os yw ysgolion yr unfed ganrif ar hugain yn ymwneud o ddifrif â'r unfed ganrif ar hugain, yn sicr dylai ymwybyddiaeth o fyddardod gael ei gynnwys ym mhob cynllun newydd.
Os yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn ddigon awyddus i edrych ar yr Alban am ysbrydoliaeth ar gyfer isafswm pris alcohol a'r cwricwlwm newydd, rwy'n gobeithio y bydd yn gwneud yr un peth yma. Mae'r Ddeddf y mae Mark eisoes wedi'i chrybwyll wedi arwain at welliannau cadarnhaol yn y gwasanaethau a ddarperir i ddefnyddwyr BSL yn yr Alban, gyda'r Ddeddf yn uwchraddio BSL, fel y clywsom, o fod yn iaith leiafrifol i fod yn iaith yn ei hawl ei hun. Ond rwy'n credu mai'r peth allweddol yw bod gwasanaethau cyhoeddus wedi dechrau talu sylw. Mae Cyngor Dinas Glasgow yn creu cyfle secondiad i ddefnyddiwr BSL byddar o sefydliad arall gynorthwyo gyda'u gwaith BSL. Mae gan Gyngor Dinas Dundee berson byddar fel prentis—dechrau rhywbeth gwirioneddol gyffrous. Mae Llywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban wedi creu rolau wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer pobl fyddar. Ac mae 20 o golegau a phrifysgolion eisoes wedi datblygu'n dda o ran hygyrchedd i'w gwefannau, eu prosesau ymgeisio a'u gweithgareddau myfyrwyr, yn ogystal â darparu hyfforddiant BSL i staff a myfyrwyr, a gwelwyd gwelliannau yn y prifysgolion a'r colegau eraill o ran darparu dehongli hefyd. Mae GIG yr Alban, byrddau iechyd yr Alban, wedi gwneud llawer o waith yn helpu i weithredu'r Ddeddf, er eu bod yn dal i gwyno am ddiffyg cynrychiolaeth BSL fyddar ac maent yn ceisio unioni hynny.
Felly, mae'n gwbl briodol fod rhai heriau'n parhau; nid yw deddfwriaeth yn datrys popeth. Mae'r cynghorau gwledig yn yr Alban yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar ddehonglwyr BSL, er enghraifft. Ond mae'r angen am hyfforddiant ymwybyddiaeth a grymuso BSL, yn ogystal â chydweithredu ar draws y sector cyhoeddus, yn rhywbeth y gall deddfwriaeth ei ddatrys, ac mae hynny'n arwain yn ehangach wedyn, fel magnet, os hoffwch, at wneud mwy i rymuso pobl fyddar drwy gyflogaeth. Felly, nid yw'n berffaith, ond maent o leiaf wedi dechrau yn yr Alban, felly mae angen i ni wneud hynny hefyd. Diolch.