Part of the debate – Senedd Cymru am 4:12 pm ar 24 Chwefror 2021.
Ocê. Maen nhw'n rheoliadau anymarferol, maen nhw'n rheoliadau na ellir eu cyflawni heb greu difrod amgylcheddol na dinistr economaidd i'r ffermydd ar draws Cymru, ac maen nhw'n dod i rym wythnos cyn dyddiad gwreiddiol diddymu y Senedd yma. Mae etholiad mewn mater o wythnosau; peidiwch â rhuthro'r rheoliadau yma drwodd yn fyrbwyll. Cymerwch gam yn ôl ac ailystyriwch.