Part of the debate – Senedd Cymru am 4:08 pm ar 24 Chwefror 2021.
Mi fydd Aelodau’n ymwybodol fy mod i wedi gosod cynnig i ddiddymu y rheoliadau yma, a fydd yn cael ei ddadlau a’i bleidleisio arno yr wythnos nesaf, ond mae’n dda cael cyfle i wyntyllu’r dadleuon wrth inni baratoi ar gyfer y bleidlais fawr honno. Wrth gwrs, mi fyddwn ni’n cefnogi'r cynnig yma heddiw.
Dwi’n gwrthwynebu’r rheoliadau yma nid am nad oes yna broblem ansawdd dŵr mewn rhai rhannau o Gymru; dwi’n gwrthwynebu y rheoliadau yma oherwydd nid y rheoliadau yma yw’r ateb cywir i fynd i’r afael â’r broblem. Mae’r rheoliadau yn anghymesur, maen nhw yn mynd i gael canlyniadau anfwriadol ar yr amgylchedd, ac, wrth gwrs, maen nhw’n mynd i danseilio hyfywedd nifer o ffermydd Cymru. Pam eu bod nhw’n anghymesur? Wel, mae Cyfoeth Naturiol Cymru, wrth gwrs, wedi argymell dynodi 8 y cant o Gymru ar gyfer yr NVZs yma, yn targedu y rhannau hynny o Gymru lle mae yna broblem. Ond, wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi anwybyddu hynny a mynd am 100 y cant o Gymru, hyd yn oed yr ardaloedd sydd heb weld unrhyw achosion o lygredd amaethyddol dros y ddegawd ddiwethaf. Rŷn ni’n gwybod bod y trend ar draws Cymru wedi disgyn pan ŷch chi’n edrych ar yr achosion—flwyddyn ar ôl blwyddyn dros y tair blynedd diwethaf, lawr 28 y cant yn y cyfnod hwnnw. Felly, ie, targedwch lle mae angen targedu, gosodwch reoliadau lle mae angen rheoleiddio, ond nid gosod y baich afresymol yma ar bob un ffarm yng Nghymru ac ar bob un erw o dir Cymru hyd yn oed lle dyw e ddim yn fater sydd yn peri gofid. Mae angen i’r Llywodraeth yma fod yn llawer mwy soffistigedig ac yn llai cyntefig ar y mater yma. Dilynwch y data, dilynwch y wyddoniaeth—dyna yw mantra'r Llywodraeth pan mae'n dod i COVID. Wel, da chi, gwnewch yr un peth yn y cyd-destun yma.
Mi fydd yna ganlyniadau anfwriadol i'r amgylchedd. Mae chwalu tail yn ôl y calendr yn wirion bost, ac mi roedd y Gweinidog ei hun wedi cydnabod gyda fi rhai misoedd yn ôl ei bod hi yn ei chael hi'n anodd derbyn mai dyna yw'r approach gorau. Wythnosau cyn y bydd y cyfnod i beidio â chwalu yn dod, ac wythnosau ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben, mi fydd yna sbeics eithriadol yn lefelau nitradau yn y tir ac ar y dŵr wrth i bob ffarmwr yng Nghymru glirio'u storfeydd ar yr un pryd. Mi fydd hynny yn creu problemau llygru mewn ardaloedd lle does dim problemau llygredd ar hyn o bryd. A'r unig opsiwn, wrth gwrs, i nifer o ffermydd, yn enwedig yn yr ardaloedd llai ffafriol, sydd efallai'n cadw rhyw 20 neu 30 o wartheg, yw mynd allan o wartheg oherwydd y gost, ac mi fydd hynny'n golygu y byddwn ni'n colli'r cyfraniad amgylcheddol y mae pori'r gwartheg yna yn ei wneud o safbwynt cynefinoedd a bioamrywiaeth, yn enwedig yn yr ucheldir. Ac o golli'r gwartheg yna, beth welwch chi wedyn, wrth gwrs, yw ffermwyr yn gorfod cyflwyno mwy o ddefaid ar y tiroedd hynny, fydd yn pori'n galetach ac felly'n creu difrod i'r cynefinoedd hynny. Os ydych chi'n cadw, dywedwch, 20 o wartheg, mae'r gost o dalu am y seilwaith yma i storio gwerth tri neu bedwar mis o dail yn mynd i fod yn gwbl y tu hwnt i'ch cyrraedd chi. Mae'r Llywodraeth yn mynd i ddweud, 'Rŷn ni'n rhoi rhyw £11 miliwn i gynorthwyo'; wel, mae hynny'n chwerthinllyd. Mae hynny'n llai na £1,000 i bob daliad amaethyddol yng Nghymru. Dwi'n gwybod am un fferm sydd wedi quote o £300,000 i osod tŵr slyri ar y fferm i gwrdd â'r rheoliadau yma. Does dim unrhyw ffordd yn y byd y gall y ffarm yna fforddio'r buddsoddiad hwnnw, hyd yn oed petai'r Llywodraeth yn cyfrannu hanner y gost.
Fe wnaf i gloi gyda hyn—