Part of the debate – Senedd Cymru am 4:02 pm ar 24 Chwefror 2021.
Weinidog, mae'n wirionedd trist fod eich mesurau parth perygl nitradau didostur rydych yn eu cyflwyno yn creu amheuaeth ynghylch gonestrwydd ac uniondeb eich Llywodraeth. Yn wir, o leiaf wyth gwaith rydych wedi addo peidio â gwneud unrhyw beth tra'n bod ynghanol pandemig COVID. Wrth ymateb i mi yn y Cyfarfod Llawn ar 3 Chwefror, fe wnaethoch honni bod y cynllun gwirfoddol roeddech wedi gweithio gyda NFU Cymru i'w gyflawni wedi methu. Nid yw hynny'n wir. Yn wir, ni chafodd y dull ffermio baner las ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru pan wnaeth ffermwyr gais am gyllid drwy gynllun rheoli cynaliadwy'r cynllun datblygu gwledig.
Er bod canlyniadau prosiectau a safonau dŵr wedi cael eu rhannu mewn llythyrau atoch chi a'r Prif Weinidog ym mis Mawrth 2020, gan gynnwys argymhellion ar gyfer y camau nesaf a chyhoeddi ymateb gan swyddogion yn datgan y rhoddir ystyriaeth fanwl i'r safon dŵr, yn ôl yr hyn a ddeallaf mae'n warthus fod NFU Cymru yn dal i aros am ateb pellach. Er bod sefydliadau'r diwydiant yn ymrwymo i is-grŵp fforwm rheoli tir Cymru ar lygredd amaethyddol a bod y grŵp wedi cyflwyno adroddiad cynnydd i chi gyda 45 o argymhellion ym mis Ebrill 2018, erbyn dechrau'r mis hwn nid oeddech wedi ymateb na hyd yn oed wedi cyfarfod â'r grŵp arbenigol. Yn amlwg, rydych wedi diystyru'r dull gwirfoddol ymhell cyn rhoi cyfle priodol iddo.
Yn gynharach y mis hwn, honnodd y Prif Weinidog nad ydym wedi gweld unrhyw leihad yng nghyfradd y llygredd amaethyddol. Nid yw hynny eto'n gywir. Rydych chi eich hun wedi cydnabod y bu cynnydd dros y pedair blynedd ddiwethaf. Roedd cyfarwyddwr gweithredol tystiolaeth, polisi a thrwyddedu Cyfoeth Naturiol Cymru wedi sôn am leihad cyson mewn digwyddiadau llygredd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, a gwelwyd tuedd glir ar i lawr o 28 y cant dros y tair blynedd ddiwethaf. Wrth geisio cyfiawnhau'r rheoliadau hyn, rydych wedi fy nghyfeirio at brosiect llaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Dywedwyd wrth y Senedd hon nad yw 50 y cant o'r ffermydd llaeth yr ymwelwyd â hwy yn cydymffurfio. Cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig yn gofyn ichi egluro pa gamau a gymerodd swyddogion i archwilio'r rhesymau dros beidio â chydymffurfio. Gwnaethoch ymateb ddydd Llun yn dweud y byddwch yn dadansoddi'r canlyniadau'n drylwyr pan fydd y prosiect wedi'i gwblhau. Rwy'n credu eich bod yn gwybod i ble rwy'n mynd gyda hyn. Efallai y cofiwch hefyd yn y pwyllgor y mis hwn i chi ddweud wrthyf, ac rwy'n dyfynnu,
O ran y costau sy'n gysylltiedig â'r llygredd amaethyddol, fel y dywedais, mae cost uwch os na wnawn unrhyw beth.
Unwaith eto, rydych chi'n anghywir. Mae eich asesiad effaith rheoleiddiol eich hun yn amcangyfrif y gallai costau cyfalaf ymlaen llaw parth perygl nitradau fod yn £360 miliwn. Mae hynny £347 miliwn yn fwy na'r cymorth rydych yn ei gynnig mewn gwirionedd, £99 miliwn yn fwy na chyfanswm diweddaraf incwm ffermio yng Nghymru. Yn wir, yn ôl yr asesiad effaith rheoleiddiol, dros 20 mlynedd, mae cyfanswm y gost yn fwy na £1 biliwn i'n sector amaethyddol. Pam eich bod yn gwneud i ffermwyr wario'r symiau hurt hyn, arian nad oes ganddynt, rhwng nawr a 2040, am fuddion gwerth £153 miliwn? Mae'r costau £950 miliwn yn fwy na gwerth gwirioneddol y buddion. Yn wir, gallai bwlch enfawr Griffiths rhwng cost a budd fod hyd yn oed yn fwy, fel y dywed y memorandwm esboniadol, ac rwy'n dyfynnu:
Oherwydd yr ystod eang o gostau amgylcheddol posibl sy'n gysylltiedig â'r llygryddion hyn a'r amrywiaeth o fathau o ffermydd ac arferion, ni ellir bod yn sicr o'r gymhareb cost a budd.
Pam eich bod yn honni bod y rheoliadau hyn yn gymesur? Pam cynyddu nifer y daliadau y mae parthau perygl nitradau yn effeithio arnynt i dros 24,000, pan na fu unrhyw ddigwyddiadau mewn rhannau helaeth o Gymru yn ystod y degawd diwethaf? Pam gwawdio Brexit a datganoli drwy ddewis opsiwn Ewropeaidd pan ddylem fod yn edrych ar weithio gyda ffermwyr i ddatblygu ateb gwirfoddol i Gymru? Pam mynd ar drywydd parth perygl nitradau pan fo astudiaeth gan eich annwyl Gomisiwn Ewropeaidd wedi canfod nad oedd tua hanner y safleoedd monitro nitradau Ewropeaidd yn dangos unrhyw newid sylweddol, a bod 26.6 y cant arall yn cyflwyno tueddiadau cynyddol o nitradau? Pam gwthio Cymru i barth perygl nitradau tiriogaeth gyfan pan fo Denmarc ac Iwerddon wedi gwneud cais am randdirymiad?
Er mwyn ffermio yng Nghymru, ac yn wir, i'n ffermwyr a cheidwaid ein cefn gwlad, mae angen inni atal cynnydd ar hyn. Weinidog, rwy'n eich parchu'n fawr, ac yn sylweddoli ei fod yn bortffolio mawr sy'n wynebu anawsterau. Mae un achos o lygredd yn un achos yn ormod. Ond rwy'n dweud wrthych, yn gwbl onest, ac o ddifrif: nid yw y tu hwnt i rywun i allu dweud, 'Rwy'n gwrando ar fy ffermwyr, rwy'n gwrando ar bobl Cymru, rwy'n gwrando ar fy nghyd-Aelodau etholedig yn y Senedd.' Newidiwch eich meddwl ar y penderfyniad hwn, Weinidog, a gadewch inni droi'r diffyg ymddiriedaeth yn barch yn awr. Diolch.