7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Parth perygl nitradau Cymru gyfan

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:27 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 4:27, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Fel Llywodraeth, rydym yn cefnogi uchelgais ffermwyr Cymru i fod y mwyaf cyfeillgar yn y byd tuag at natur a'r hinsawdd, gan adeiladu ar enw da am safonau lles anifeiliaid uchel, safonau amgylcheddol uchel ac ansawdd uchel y bwyd y maent yn ei gynhyrchu. Mae'r uchelgais hwn dan fygythiad oherwydd y niwed ecolegol a'r niwed i enw da a achosir gan lygredd eang yn deillio o arferion amaethyddol gwael.

Er mwyn sicrhau dyfodol llewyrchus i ffermio yng Nghymru bydd rhaid gallu manteisio ar alw cynyddol yn y wlad hon ac yn rhyngwladol am gynnyrch gwirioneddol gynaliadwy. Credaf fod gan ein ffermwyr arbenigedd a phenderfyniad i gyflawni hyn, a chredaf fod y cyhoedd am i'r gefnogaeth sylweddol iawn a roddwn i'r sector ffermio ar eu rhan ganolbwyntio ar sicrhau'r cynaliadwyedd hwnnw i'r economi wledig ac i dreftadaeth naturiol Cymru. Rwy'n ymwybodol fod llawer iawn o wybodaeth anghywir wedi bod ynghylch bwriadau'r Llywodraeth wrth ymdrin â llygredd amaethyddol, a bod rhai wedi ystyried mai eu rôl oedd creu gorbryder ac ansicrwydd ymhlith cymunedau ffermio, yn hytrach na chraffu'n ofalus, cyflwyno syniadau adeiladol, a hysbysu'r cyhoedd yn gyfrifol am y materion sy'n codi. Cyfeiriodd Jenny Rathbone at y gorliwio ynghylch gofyn i ffermwyr beidio â llygru. A gawn ni gofio mai eu dyletswydd statudol yw peidio â llygru? Yn y cyd-destun hwnnw, rwy'n croesawu'r cyfle ar gyfer y ddadl hon yn y Senedd fel y gallwn geisio dod i gonsensws ar yr angen am newid ac ar yr angen i gefnogi'r sector i weithredu mesurau ymarfer da presennol fel cam cyntaf tuag at wneud ein sector ffermio a'n hamgylchedd naturiol yn fwy gwydn.

Yn gynharach y mis hwn, gwneuthum reoliadau gerbron y Senedd i osod targed allyriadau sero-net yng Nghymru mewn cyfraith. Rwy'n gobeithio y bydd pawb yn y Senedd hon yn rhannu'r uchelgais hwn ar gyfer ymateb brys a chynyddol i'r argyfwng hinsawdd. Gwn fod undebau ffermio Cymru'n cefnogi'r uchelgais yn gryf, ac maent hwy eu hunain wedi gosod nod sero-net ar gyfer y sector. Mae'r dystiolaeth wyddonol yn glir: mae maint yr her sero-net yn golygu na allwn fforddio gohirio tan yfory y gostyngiadau mewn allyriadau y gallwn eu cyflawni heddiw. Nid yw'n gredadwy i'r gwrthbleidiau ddweud eu bod yn cefnogi'r nod sero-net os nad ydynt yn fodlon dilyn y cyngor gwyddonol ar y mesurau y mae angen inni eu cymryd i'w gyflawni a'r amserlenni y mae'n rhaid inni weithio o'u mewn, lle nad oes lle i oedi neu wrthdroi. Y cyfan a glywais gan Aelodau'r gwrthbleidiau y prynhawn yma yw galwad i beidio â gweithredu; mae'r Llywodraeth hon yn un sy'n gweithredu.

Mae gweithredu arferion da ym maes rheoli maetholion yn golygu cynllunio ble, pryd a sut i wasgaru slyri mewn ffordd sy'n lleihau'r colledion i'r amgylchedd sydd fel arall yn cynyddu ein hallyriadau i lefelau anghynaliadwy. Mae gan y sector ffermio gyfraniad eang iawn i'w wneud i ddarparu'r atebion sydd eu hangen arnom i'r argyfyngau hinsawdd a bioamrywiaeth. Mae codi safonau rheoli maetholion fel mai'r safon dda y mae llawer eisoes yn ei chyrraedd yw'r safon ofynnol yn un o'r camau pwysicaf a mwyaf uniongyrchol y gallant eu cymryd, a gobeithio y gall y Senedd gyfan gytuno bod angen y camau hyn yn awr. 

Yn anffodus, oherwydd diffygion yn y modd y rheolir maetholion mewn rhai rhannau o'r sector ffermio, mae'n dal i fod yn wir ein bod yn parhau i weld llawer gormod o achosion o lygredd amaethyddol y gellir eu hatal. Hyd yn oed ar drothwy'r ddadl hon, cefais wybod neithiwr am achos sylweddol o lygredd slyri ar afon ac aber yn sir Benfro. Ni hunanadroddwyd am y digwyddiad ac felly mae ymchwiliadau ar y gweill gan CNC. Dywedodd Janet Finch-Saunders fod un digwyddiad yn ormod; wel, gadewch imi ddweud wrthych fod dros 100 bob blwyddyn am dros 20 mlynedd yn ormod o lawer. Mae'r digwyddiadau hyn yn lladd bywyd gwyllt, maent yn gwenwyno ein haer, ein pridd a'n dŵr. Maent yn cynyddu allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac maent yn niweidio enw da ffermio yng Nghymru. Rwy'n gobeithio, felly, y gall yr holl Aelodau o'r Senedd gytuno â mi a'r rhai yn ein cymunedau ffermio a'r cyhoedd yn ehangach sy'n dweud ein bod wedi cael digon ar y digwyddiadau hyn; nid ydym am dderbyn yr arferion gwael sy'n eu hachosi mwyach. Ac rwy'n ailadrodd yr hyn a ddywedodd Janet Finch-Saunders—mae un achos o'r fath yn un achos yn ormod.