7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Parth perygl nitradau Cymru gyfan

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:31 pm ar 24 Chwefror 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 4:31, 24 Chwefror 2021

(Cyfieithwyd)

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn am fynd ar drywydd yr honiad fod Llywodraeth Cymru yn darparu digon o arian i ffermwyr allu ymateb i'r gofynion newydd hyn. Rwy'n credu bod oddeutu £11.5 miliwn yn cael ei ddarparu. Yn ôl amcangyfrifon y Llywodraeth ei hun, byddai hynny'n ddigon i dalu am anghenion Ynys Môn yn unig, heb sôn am weddill Cymru. Mae'r amcangyfrifon senario cost isel gan Lywodraeth Cymru yn dweud bod angen £109 miliwn, a'r senario cost uchel yn £360 miliwn, ac rydych yn darparu £11.5 miliwn, rwy'n meddwl. Felly, gadewch inni beidio â chredu'r hyn a glywsom gan rai o'r Aelodau yn y ddadl hon—fod y Llywodraeth yn darparu'r cymorth sydd ei angen.