Part of the debate – Senedd Cymru am 4:43 pm ar 24 Chwefror 2021.
Rwy'n credu bod yn rhaid i mi ddechrau drwy ofyn pam mai dyma'r trydydd tro i ni drafod safbwynt Plaid Cymru ar brydau ysgol am ddim mewn cynifer o fisoedd. Mae'r cynnig hwn yn ailadrodd gwelliant i'r ddadl ar y gyllideb ar 9 Chwefror, bythefnos yn ôl yn unig. Yn ôl ym mis Rhagfyr, fe wnaethom gytuno, os nad oedd cyllid cyhoeddus ar gael i chi, na ddylech orfod poeni hefyd am ddibynnu ar ddisgresiwn rhywun er mwyn i'ch plentyn allu bwyta, ac roeddem hefyd yn cydnabod bod rhai teuluoedd na fyddent efallai wedi cael anhawster i dalu am fwyd eu plant mewn amgylchiadau arferol wedi ei chael hi'n anos yn ystod y pandemig, a'n bod yn cefnogi'r modd y mae Llywodraeth Cymru yn ymestyn y ddarpariaeth cinio ysgol am ddim i gynnwys cyfnod gwyliau tra'n bod ynghanol hyn i gyd. Ond dywedais hefyd na ddylem lithro'n dawel i gynnig hynny am byth yma, ac nad oeddem yn cytuno â chynigion ar ddarparu prydau ysgol am ddim i bawb, ac a bod yn deg, roedd Helen Mary yn ddigon graslon i gydnabod mai mater o athroniaeth wahanol oedd hyn, yn ymwneud â'r ffordd orau o fynd i'r afael â thlodi plant, yn hytrach nag amharodrwydd i wynebu'r her a gweithredu arni.
Mae prydau ysgol am ddim i bawb yn cynnwys brecwast, ac rydym yn gwrthod hynny am y rhesymau a nodwyd gennyf ym mis Rhagfyr, sy'n golygu na allwn gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru, ond ar ôl dweud hynny, rydym yn cytuno â pharagraff 1 o'r gwelliant hwnnw, ac yn cydnabod eto ymateb y Llywodraeth i COVID ar brydau ysgol am ddim, yn ogystal â dymuno'n dda iddi gyda'i hadolygiad. Ond byddwn yn cefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio. Yn gynharach y mis hwn, cytunasom y dylai unrhyw gyllideb sydd heb ei gwario eleni gael ei thargedu mewn ffordd dros dro ar helpu teuluoedd sy'n cael credyd cynhwysol. Ceir teuluoedd sy'n derbyn credyd cynhwysol am y tro cyntaf oherwydd bod COVID wedi eu hamddifadu o'u swyddi, teuluoedd a fydd yn parhau ar gredyd cynhwysol am y rhan ragweladwy o'r flwyddyn i ddod am na allant ddod o hyd i waith na gwaith am gyflog gwell. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, Blaid Cymru, roeddem o fewn dim i beidio â chefnogi'r cynnig fel y mae, unwaith eto, oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi tynnu ein sylw at adroddiad y Sefydliad Polisi Addysg yn ei gwelliant ei hun, a'r hyn y mae'n ei ddweud am benderfyniadau gwario'r pedair gwlad ar addysg yn ystod y pandemig. Mae £174 yn cael ei wario ar adfer addysg pob disgybl yn Lloegr, ond dim ond £88 y disgybl yng Nghymru, er i Gymru gael y £5.2 biliwn ychwanegol gan Lywodraeth y DU y clywsom amdano. Yma hefyd y cafwyd y nifer isaf o oriau dysgu gartref, yn enwedig mewn teuluoedd mwy difreintiedig, er mai'r teuluoedd hynny sydd wedi dioddef fwyaf ledled y DU wrth gwrs. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn llai hael hyd yma hefyd gyda'i chefnogaeth i gyllid gofal plant ac anghenion dysgu ychwanegol fesul disgybl. A dylai hynny fod yn destun pryder i bob un ohonom sy'n credu bod addysg yn rhan hanfodol o'r llwybr allan o dlodi, wrth weld yr anghysondeb enfawr hwn yn y buddsoddiad dal i fyny, sy'n golygu y bydd gormod o rieni yfory yn dal i ddibynnu ar brydau ysgol am ddim, ni waeth faint o ffidlan y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud â'r meini prawf. Diolch.