Part of the debate – Senedd Cymru ar 24 Chwefror 2021.
Cynnig NDM7598 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnodd cyllidol sydd heb ei ddyrannu yng nghyllideb ddrafft 2021-22 yn cael ei ddefnyddio yn y gyllideb derfynol ar gyfer 2021-22 i ehangu meini prawf cymhwysedd prydau ysgol am ddim i gynnwys pob plentyn mewn teulu sy'n derbyn credyd cynhwysol neu fudd-dal cyfatebol ac unrhyw blentyn mewn teulu nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt.