Part of the debate – Senedd Cymru am 4:50 pm ar 24 Chwefror 2021.
[Anghlywadwy.]—oherwydd yn ystod y pandemig COVID hwn, yr hyn rydym wedi'i weld yn cael ei ddatgelu yw'r anghydraddoldebau enfawr sy'n dal i fodoli yn ein cymdeithas a'r effaith y maent wedi'i chael ar ansawdd bywyd, iechyd ac addysg rhai o'r bobl dlotaf yn ein cymdeithas.
A gaf fi ddechrau drwy ganmol y rheini yn ein cymunedau sydd wedi gwneud cymaint yn ystod y pandemig i sicrhau, yn ogystal â'r cymorth ariannol sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru i deuluoedd sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim, eu bod serch hynny wedi codi arian i ddarparu a dosbarthu blychau bwyd i'r teuluoedd hynny i sicrhau nad oedd y plant yn mynd heb fwyd? Yn Nhonyrefail, paratôdd a dosbarthodd Leanne Parsons a'i thîm o wirfoddolwyr yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail gannoedd o flychau bob dydd yr holl ffordd drwy'r haf; y Cynghorwyr Maureen Webber a Carl Thomas, ymgyrchwyr cymunedol lleol yn Rhydyfelin a'r Ddraenen Wen, a'r holl fanciau bwyd lleol sydd wedi bod mor hanfodol dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae prydau ysgol yn eiconig. O dan drefn flaenorol y cymorth incwm, roedd yr hawl i gael prydau ysgol am ddim yn glir, ond ers cyflwyno credyd cynhwysol, cafwyd maen prawf cymhwysedd ariannol newydd o £7,400 net o dreth ac eithrio unrhyw fudd-daliadau a dderbynnir, ac mae angen inni adolygu hynny yn awr. Yng Nghymru, rydym wedi sicrhau bod bron i 86,000 o ddisgyblion yn cael prydau ysgol am ddim neu gyfwerth â £19.50 yr wythnos. Wrth i fwy o ddisgyblion ddychwelyd i'r ysgol ac wrth i fwy o deuluoedd ddod yn ddibynnol ar gredyd cynhwysol, rhaid inni warantu egwyddor y credaf y gallwn i gyd gytuno â hi yn y Senedd hon: na ddylai unrhyw blentyn yng Nghymru fynd heb fwyd.
Nawr, hoffwn ganmol y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi arwain y ffordd yn y DU drwy ddarparu £50 miliwn o gyllid i sicrhau prydau ysgol am ddim yn ystod cyfnodau gwyliau a'r £23 miliwn pellach sydd wedi'i neilltuo ar gyfer ymestyn y ddarpariaeth hon.
Mae'r cynnig a gyflwynwyd yn amserol iawn, er yn rhy amhenodol yn fy marn i, oherwydd nid yw'n rhoi'r sicrwydd clir rydym am ei weld ac am anelu ato, ac y gellir ei gyflawni. Mae'r gwelliant yn sefydlu'r egwyddor ei bod yn annerbyniol i unrhyw blentyn fynd heb fwyd. Adran olaf y gwelliant yw'r bwysicaf, oherwydd dyma'r ymrwymiad cliriaf i weithredu. Mae'n ymrwymo'r Senedd a Llywodraeth Cymru i adolygu'r holl ffynonellau ac opsiynau polisi, gan gynnwys y trothwy incwm, sy'n hanfodol i gyflawni'r egwyddor hon.
Gwyddom i gyd y gallai'r gost fod oddeutu £100 miliwn y flwyddyn, felly yn yr adolygiad hwnnw mae'n hanfodol ein bod yn canolbwyntio ar holl achosion tlodi yn ein cymunedau ac yn sicrhau nad yw unrhyw ailgyfeirio cyllid yn effeithio ar brosiectau hanfodol eraill, megis rhaglen brecwast am ddim mewn ysgolion Llywodraeth Cymru, sydd yr un mor bwysig ar gyfer sicrhau nad yw ein plant yn mynd heb fwyd pan ddeuant i'r ysgol a thra'u bod yn yr ysgol.
Lywydd, rwy'n siŵr ein bod i gyd yn arddel yr egwyddor y bydd prydau ysgol rhyw ddydd yn dod yn fudd cyffredinol i bawb fel rhan o'r system addysg. Tan hynny, er gwaethaf y cyni ariannol Torïaidd rydym yn debygol o'i wynebu unwaith eto, rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i ymestyn yr hawl mewn perthynas â'r egwyddor hon fel na fydd unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd. Mae hwn yn fater o bwys mawr i bob un ohonom ar ochr Lafur y Senedd ac ym mhob plaid arall, rwy'n siŵr. Rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y gallwn i gyd anelu ato ac uno o'i gwmpas, felly rwy'n croesawu'r ymrwymiad clir hwn gan Lywodraeth Cymru i'n galluogi i gyflawni hyn. Diolch, Lywydd.