Part of the debate – Senedd Cymru am 5:02 pm ar 24 Chwefror 2021.
Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Nid yw amser yn caniatáu imi ymateb i holl gyfraniadau pob Aelod, ond mae yna rai pwyntiau y teimlaf fod angen imi eu gwneud, yn enwedig mewn ymateb i Mick Antoniw ac i'r Gweinidog.
Wrth gwrs, byddem i gyd yn cymeradwyo'r gwaith gwirfoddol y mae Mick Antoniw yn ei ddisgrifio, ond a yw'n credu mewn gwirionedd y dylai'r teuluoedd hyn a'u plant fod yn dibynnu ar elusen? Go brin fod hynny'n gyson ag egwyddorion sosialaidd rhywun. Dywed ein bod i gyd yn cytuno â'r egwyddor na ddylai unrhyw blentyn yng Nghymru fod yn mynd heb fwyd. Wel, rhaid imi ddweud bod y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, gyda chefnogaeth Sefydliad Bevan a'r fagwrfa gwleidyddiaeth genedlaetholgar honno, yr Undeb Addysg Cenedlaethol, yn amcangyfrif bod 70,000 o blant yn mynd heb fwyd heddiw. Felly, nid oes unrhyw ddiben i ni siarad am yr egwyddor. Ni allaf ddychmygu bod unrhyw un yn yr ystafell hon nac unrhyw un yng Nghymru i bob pwrpas yn credu, mewn egwyddor, na ddylid bwydo plant, ond nid yw'r plant hynny'n cael eu bwydo heddiw. Fe ailadroddaf yr hyn y mae Aelodau eraill eisoes wedi'i ddweud: mae ymchwil gan y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant yn dangos bod gan Lywodraeth Cymru brawf modd tynnach o ran mynediad at brydau ysgol am ddim, a darpariaeth lai hael yn gyffredinol i blant oedran babanod na gwledydd eraill y DU. Nid ni sy'n dweud hynny, ond y cyrff ymchwil a dylanwadu mwyaf uchel eu parch yn y maes.
Roeddwn yn falch iawn, rhaid imi ddweud, o glywed yr hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am y rheini nad oes cyllid cyhoeddus ar gael iddynt, a chredaf ei bod yn ddefnyddiol iawn ei bod wedi ailadrodd y bydd awdurdodau lleol sy'n gwneud y penderfyniadau dewisol hynny'n cael eu had-dalu. Roedd hynny'n glir o'r blaen; mae'n braf ei glywed yn cael ei ailadrodd. Ond ar wahân i hynny, rhaid imi ddweud wrthi nad yw'r ddadl hon yn ymwneud â'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud, mae'n ymwneud â'r hyn nad yw'r Llywodraeth wedi'i wneud. Mae'n ddiddorol bob tro y cawn y ddadl hon—ac rwy'n derbyn pwynt Suzy Davies, rydym wedi sôn am hyn droeon, ond byddwn yn dal i siarad amdano nes i rywbeth gael ei wneud. Os edrychwch ar gywair gwelliant y Llywodraeth y tro hwn, mae'n fwy cymedrol na gwelliant y Llywodraeth y tro diwethaf. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am ddal ati i siarad am fod eisiau bwydo plant llwglyd; bûm yn gwneud hynny ers 40 mlynedd ac rwy'n bwriadu dal ati hyd nes y gallwn.
Mae'r Llywodraeth yn newid y cyfrif ariannol am yr hyn rydym yn ei gynnwys bob tro y byddwn yn trafod hyn, a'r risgiau, ac mae honno'n ffordd ddilys iddynt ymateb i'r ddadl. Wrth gwrs, mae safbwynt Kirsty Williams yn un anrhydeddus a chyson; nid yw Kirsty'n honni bod yn sosialydd. Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelodau Llafur yn y Siambr hon a'r ASau Llafur sydd wedi bod yn gwneud datganiadau am hyn heddiw na allwch edrych y ddwy ffordd ar hyn. Ni fydd pobl Cymru'n cael eu twyllo. Ni fyddant yn eich credu pan ddywedwch, 'Rydym am ymestyn y meini prawf, ond ni allwn wneud hynny', oherwydd fe wyddom fod yr arian yno bellach. Ni allwch barhau i edrych y ddwy ffordd ar y mater hwn a disgwyl cael rhwydd hynt i wneud hynny. A thra'ch bod yn edrych y ddwy ffordd ar y mater, ni fydd 70,000—wel, 76,000 os cynhwyswn y rheini nad oes cyllid cyhoeddus ar gael iddynt—yn cael eu hariannu.
Rwy am ailadrodd, Lywydd: y prawf modd tynnaf a'r ddarpariaeth leiaf hael i blant oedran babanod o gymharu ag unrhyw wlad yn y DU. A yw hyn yn rhywbeth y gall yr un ohonom yn y Siambr hon ymfalchïo ynddo, ac a yw'n rhywbeth y mae Aelodau Llafur yn barod i'w oddef? Wrth gwrs, mae gwleidyddiaeth yn ymwneud â blaenoriaethau, a gallaf sicrhau'r Siambr hon heddiw y bydd bwydo'r plant llwglyd hynny—plant y mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi cydnabod eu bod yn dlawd ac angen cymorth am fod eu teuluoedd yn cael credyd cynhwysol—yn flaenoriaeth i Lywodraeth Plaid Cymru. Ac os na wnewch chi eu bwydo, mae'n bryd symud o'r ffordd a gwneud lle i Lywodraeth a fydd yn gwneud hynny.