Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 24 Chwefror 2021.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, a diolch i fy nghyd-Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl y prynhawn yma. A gaf fi ddweud fy mod yn falch iawn o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi ymateb i heriau digynsail y pandemig COVID-19, gan sicrhau nad yw'r rhai sy'n dibynnu ar brydau ysgol am ddim wedi gorfod mynd hebddynt pan nad ydynt yn yr ysgol?
Rydym bellach wedi darparu hyd at £60.5 miliwn o gyllid ychwanegol y flwyddyn ariannol hon ar gyfer prydau ysgol am ddim, ac i adeiladu ar hyn byddwn yn darparu £23.3 miliwn ychwanegol i ymestyn y ddarpariaeth o brydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol ar gyfer 2021-22 ar ei hyd. Mae darparu prydau ysgol am ddim yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol, a'n nod yw sicrhau bod y cymorth hwn yn parhau i fod ar gael i deuluoedd sydd ei angen fwyaf.
Yn 2019, roeddem yn amcangyfrif, pe na bai trothwy cyflog yn cael ei roi ar waith erbyn i gredyd cynhwysol gael ei gyflwyno'n llawn, y byddai tua hanner disgyblion Cymru yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim yng Nghymru, o'i gymharu ag 16 y cant yn 2017. Heb fod arian ychwanegol ar gael i Lywodraeth Cymru, byddai hyn wedi golygu bod angen gwneud dewisiadau ariannu anodd iawn mewn mannau eraill o fewn y portffolio addysg a'r Llywodraeth ehangach, ac nid ydym eto wedi clywed beth y mae pobl yn credu y dylid ei dorri i allu fforddio newid o'r fath.
Yn ystod y pandemig, bu cynnydd sylweddol yn nifer y teuluoedd sy'n manteisio ar hawl i brydau ysgol am ddim oherwydd yr argyfwng economaidd y mae COVID wedi'i greu, ac mae nifer y disgyblion sydd bellach yn cael y ddarpariaeth wedi cynyddu mewn ychydig fisoedd yn unig o tua 91,000 i dros 105,000 erbyn hyn. Bydd yr Aelodau'n cofio inni gyfrifo, ym mis Rhagfyr, y byddai darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn y mae eu rhieni'n cael credyd cynhwysol yn costio £67 miliwn ychwanegol y flwyddyn. Mae gwaith pellach wedi'i wneud i ddiweddaru'r ffigurau hyn, gyda'r cyfrifiadau diweddaraf bellach yn dangos y byddai'r gost ychwanegol rhwng £85 miliwn a £100 miliwn, hyd yn oed cyn ystyried effaith y pandemig.
Ond rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig i gyd-Aelodau yn y Siambr beidio ag anghofio bod cynyddu cymhwysedd i gael prydau ysgol am ddim hefyd yn cael effaith ganlyniadol ar feysydd polisi eraill. Er enghraifft, byddai amcangyfrif bras o gynnig prydau ysgol am ddim i bob disgybl mewn teuluoedd sy'n hawlio credyd cynhwysol yn arwain at gost ychwanegol i'r grant datblygu disgyblion o rhwng £220 miliwn a £250 miliwn. Wrth gwrs, efallai mai bwriad Plaid Cymru yw dileu'r grant datblygu disgyblion neu dorri gwerth y grant i bob disgybl unigol, ond erys y ffaith mai amcangyfrif bras yw y gallai'r polisi hwn gostio £350 miliwn ychwanegol y flwyddyn.
Mewn dadl debyg ym mis Rhagfyr, dywedodd Plaid Cymru mai hwn fyddai'r cam cyntaf tuag at eu polisi o gynnig prydau ysgol am ddim i bawb, a'r cwestiwn sydd gennyf heddiw yw'r cwestiwn oedd gennyf bryd hynny: ble rydych chi'n disgwyl dod o hyd i'r arian hwn? Oherwydd mae'n rhaid i mi ddweud, nid yw'n dal dŵr fod yr arian hwn yn dod o'r cyllid ychwanegol y mae cyllideb eleni yn ei gynnwys. Beth am y blynyddoedd i ddod? Arian untro yw'r arian y cyfeiriwyd ato. Byddai'n dal i fod angen inni ddod o hyd i gannoedd o filiynau o bunnoedd ar gyfer y blynyddoedd i ddod. I fod yn glir, mae hynny'n golygu toriadau mewn mannau eraill. Rwy'n cydnabod pwysigrwydd prydau ysgol am ddim i gefnogi plant a theuluoedd wrth gwrs. Pe na bawn i'n cydnabod hynny, ni fyddem wedi cymryd y camau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi'u cymryd. Roedd y newidiadau a oedd yn angenrheidiol pan gyflwynwyd y trothwy gennym yn eithriadol o gymhleth, ond rydym wedi ymrwymo'n llwyr i gynnal adolygiad cyflym o'r trothwy pan fydd data newydd ar gael.
Mewn perthynas â rhannau eraill o'r cynnig heddiw, yn galw am i'r meini prawf gynnwys teuluoedd nad oes cyllid cyhoeddus ar gael iddynt, rwy'n cytuno bod hyn yn bwysig iawn. Er fy mod yn cydnabod nad yw pawb nad oes cyllid cyhoeddus ar gael iddynt ar incwm isel, i lawer iawn o'r teuluoedd nad oes arian cyhoeddus ar gael iddynt rwy'n cydnabod yn ddi-os fod angen cymorth ar lawer o'r teuluoedd hynny. Gallaf gadarnhau felly y byddwn yn ystyried gwneud gwelliannau ffurfiol i'r ddeddfwriaeth gymhleth hon pan fydd effaith COVID-19 wedi lleddfu. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i annog pob awdurdod lleol yn gryf i arfer eu disgresiwn i ganiatáu i blant y teuluoedd hyn elwa o ddarpariaeth prydau ysgol am ddim. Rwy'n derbyn bod awdurdodau lleol bob amser yn poeni am eu cyllidebau unigol eu hunain, ond gadewch imi ddweud yn gwbl glir wrth bob awdurdod lleol y prynhawn yma: gallant hawlio costau ychwanegol gan Lywodraeth Cymru os ydynt yn cymryd y cam hwn ymlaen i gefnogi'r teuluoedd hyn.
Lywydd, i orffen, mae hyn yn ymwneud â dewisiadau, ac mae lle dylem dargedu ein hadnoddau bob amser yn gwestiwn rydym ni fel Llywodraeth yn ei herio'n gyson ac yn ei ofyn i ni'n hunain. Heddiw rwy'n falch o gyhoeddi cyllid ychwanegol i ymestyn cynllun mynediad ein grant datblygu disgyblion i fod yn werth dros £10 miliwn erbyn hyn. Dyma gyllid a fydd yn cefnogi ein dysgwyr mwyaf difreintiedig ac yn helpu mwy o deuluoedd gyda chostau gwisg ysgol, offer ysgol, a dyfeisiau electronig erbyn hyn. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddwn ni yma yn y Llywodraeth hon, o fewn y gyllideb gyfyngedig a ddarperir inni gan Lywodraeth y DU, yn parhau i sicrhau bod adnoddau'n cael eu gwario yn y ffordd orau bosibl sy'n targedu yn y modd gorau. Diolch.