Grŵp 4: Hanes ac amrywiaeth Cymru (Gwelliannau 43, 44, 46, 47, 48)

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 2 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 6:05, 2 Mawrth 2021

Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am y cyfle i agor y drafodaeth ar grŵp 4. Mi fyddai cefnogi gwelliant 43 yn ychwanegu'r frawddeg

'Hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth, gan gynnwys Hanes Pobl Dduon a Phobl Groenliw' i'r rhestr o elfennau gorfodol o fewn yr ardaloedd dysgu a phrofiad. Byddai'n ychwanegol at yr hyn rydym ni newydd fod yn ei drafod, sef addysg cydberthynas a rhywioldeb, ac mi fyddai'n ychwanegol at grefydd, gwerthoedd a moeseg fel elfennau mandadol ar wyneb y Bil.

Mi fyddai cefnogi gwelliant 44 yn ei gwneud hi'n ofynnol i god 'yr hyn sy'n bwysig' nodi sut y bydd dealltwriaeth o ddigwyddiadau hanesyddol allweddol Cymru a'r byd yn cael ei sicrhau ar draws meysydd dysgu a phrofiad. Yn ystod ein trafodaeth ni yng Nghyfnod 2, fe dynnodd y Gweinidog sylw'n ddigon teg at y ffaith nad mater i'r dyniaethau yn unig ydy hanes Cymru, ac mae gwelliant 44 yn cydnabod hynny, gan wneud dealltwriaeth o brif ddigwyddiadau hanes, yn eu holl amrywiaeth, yn fater trawsgwricwlaidd.

Mi fyddai gwelliannau 46, 47 a 48 yn rhoi rheidrwydd ar i bob cwricwlwm ym mhob ysgol gael eu cynllunio i alluogi disgyblion i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o hanes amrywiol, treftadaeth ddiwylliannol, amrywiaeth ethnig, hunaniaethau a safbwyntiau Cymru. Felly, yn dilyn Cyfnod 2, fe welwch ein bod ni wedi gwrando ar gyngor y Gweinidog Addysg ac wedi penderfynu newid ein dull ni o geisio cael Wil i'w wely. O wrthod y gwelliannau yma, fydd hi ddim yn bosib rhoi cysondeb a sicrwydd y bydd pob plentyn yng Nghymru yn cael y profiad o ddysgu am hanes cyfoethog ac amrywiol ein gwlad ni.

Mae'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, yn ei adroddiad ar y Bil, wedi nodi bod angen i'r Llywodraeth daro'r cydbwysedd cywir rhwng hyblygrwydd lleol a chysondeb cenedlaethol. Byddai sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn cael dysgu am ddigwyddiadau hanesyddol allweddol o arwyddocâd cenedlaethol yn eu helpu nhw i ddod yn ddinasyddion gwybodus gyda gwybodaeth ddiwylliannol a gwleidyddol hanfodol, a dwi'n credu y byddai cynnwys hyn ar wyneb y Bil yn taro'r cydbwysedd cywir yna rhwng yr angen am gysondeb cenedlaethol a'r angen am hyblygrwydd lleol.

Mi fyddai'r gwelliannau hefyd yn sicrhau mynediad cyfartal i addysg hanes, sy'n hanfodol i sicrhau cydraddoldeb addysg ar draws Cymru. Er mwyn helpu mynd i'r afael ag anghyfiawnderau strwythurol a hiliaeth a hyrwyddo amrywiaeth hiliol a diwylliannol, mae'n rhaid gwarantu addysg i bob disgybl ar hanes pobl dduon a phobl o liw. A drwy sicrhau bod gan hanes Cymru sylfaen statudol yn y Bil, fe allwn ni sicrhau bod athrawon yn gallu cael gafael ar y wybodaeth angenrheidiol am hanes Cymru, gan ddarparu canllawiau angenrheidiol a defnyddiol i gefnogi athrawon a meithrin eu hyder nhw mewn addysgu pwnc sy'n gallu bod yn gymhleth, yn anghyfarwydd, ond eto yn hanfodol, yn union fel rydym ni wedi ei ddadlau efo addysg cydberthynas a rhywioldeb. Mae angen newid strwythurol mawr i daclo hiliaeth, ac mae angen dyrchafu hunaniaethau ac amrywiaeth Cymru i fod yn thema addysgol drawsgwricwlaidd sy'n haeddu'r un statws a chysondeb â meysydd eraill.

Dadl y Gweinidog, mae'n debyg, ydy mai fframwaith heb fanylder ydy'r Bil yma, ac eto mae hi'n dadlau bod angen i rai materion gael eglurder a ffocws penodol, a dyna'i dadl hi dros gynnwys addysg cydberthynas a rhyw ar wyneb y Bil. Fy nadl i ydy bod hynny yn hollol briodol hefyd o ran ychwanegu hanes Cymru yn ei holl amrywiaeth. Mae'r ffaith bod addysg cydberthynas a rhyw, a chrefydd a moeseg, wedi cael eu cynnwys ar wyneb y Bil yn agor y drws at ychwanegu materion o bwys cenedlaethol eraill hefyd—materion sydd yn gallu bod yn drawsffurfiol eu natur, ac am union yr un rhesymau rydyn ni wedi bod yn eu trafod efo addysg cydberthynas a rhyw. Felly, dwi'n honni heddiw fod yna ddiffyg rhesymegol yn y dadleuon dros wrthod cynnwys hwn fel elfen fandadol ac, felly, fod y Bil yn ddiffygiol oherwydd nad ydy o'n gyson. Diolch, Llywydd. Fe wnaf i edrych ymlaen at glywed y dadleuon a'r ymateb.