Part of the debate – Senedd Cymru am 6:17 pm ar 2 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae gwelliant 44 yn gwneud yr hyn rydych chi'n honni nad ydy o'n gwneud. Mae gwelliant 44 yn darllen fel hyn:
'Rhaid i God yr Hyn sy'n Bwysig nodi sut y bydd dealltwriaeth o ddigwyddiadau hanesyddol allweddol Cymru a’r byd, gan gynnwys ―
'(a) hanes Pobl Dduon a Phobl Groenliw,
'(b) profiadau a chyfraniadau pobl Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, ac
'(c) hanes hiliaeth ac amrywiaeth,
'yn cael ei sicrhau ar draws meysydd dysgu a phrofiad.’
Fedraf i ddim bod yn fwy clir, dydw i ddim yn meddwl, mai'r bwriad efo'r gwelliant yma ydy dyrchafu'r maes allan o'r dyniaethau i fod yr hyn ydych chi'n ei ddadlau amdano fo. Felly, yn fwriadol, efallai, rydych chi'n mynd â ni i lawr rhyw gyfeiriad gwahanol i'r hyn rydym ni'n bwriadu ceisio ei wneud efo'r gwelliannau yma yn fan hyn.
Os ydy'r maes yma yn mynd i fod yn fandadol, fel rydych chi'n dweud y bydd o, ac y bydd o yn fandadol drwy'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig', wel, beth ydy'r broblem efo cefnogi'r gwelliannau sydd gerbron heddiw yma? Dydy hynna ddim yn mynd i wneud unrhyw fath o wahaniaeth, felly. Fe fydd o ar wyneb y Bil os ydych chi'n cefnogi'n gwelliannau ni, ac mi fydd y cwbl rydych chi'n ei ddisgrifio yn deillio ac yn llifo i lawr o hynny. I mi, dyna ydy pwrpas deddfwriaeth: rydych chi'n rhoi rhywbeth yn hollol, hollol glir os ydych chi'n dymuno i bopeth arall wedyn raeadru i lawr ohono fo, ac, os ydy o'n mynd i fod yn y canllawiau beth bynnag, dydw i ddim yn deall y ddadl dros beidio â'i ddyrchafu i fod yn fater ar wyneb y Bil.
Dwi'n mynd yn ôl at y pwynt yma: rydych chi yn penderfynu rhoi addysg cydberthynas a rhyw yn fater mandadol ar wyneb y Bil—gwych, gwych—er mwyn i bopeth arall lifo o hynny. Dwi'n methu â deall rhesymeg pam ddim rhoi maes sydd yn gwbl allweddol ar gyfer datblygu ein cenedl ni wrth inni symud ymlaen ac i barchu'r amrywiaeth ac i waredu ein cymdeithas ni o hiliaeth. Mae angen i hynny hefyd fod ar wyneb y Bil er mwyn i'r trawsffurfiad yma sydd angen digwydd fod yno a chael y statws hollol ddilys sydd angen iddo fo ei gael. Felly, dwi yn gofyn ichi gefnogi ein gwelliannau ni yn y maes yma. Diolch yn fawr.