Part of the debate – Senedd Cymru am 6:49 pm ar 2 Mawrth 2021.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae gwelliannau 30 a 32 yn fân newidiadau technegol i ddiweddaru'r Bil. Rwyf wedi cyflwyno gwelliant 33 i ddiwygio adran 68 y Bil. Fel y'i drafftiwyd, nid yw'r Bil yn caniatáu i reoliadau addasu darpariaethau'r Bil wrth eu cymhwyso i blant a phobl ifanc a gedwir yn y ddalfa. O ystyried eu hamgylchiadau, gallai rhai addasiadau fod yn angenrheidiol. Bydd y mân welliant hwn yn darparu'r hyblygrwydd priodol hwnnw. Felly, gofynnaf i Aelodau'r Senedd dderbyn gwelliannau 30, 32 a 33. Diolch.