Part of the debate – Senedd Cymru am 8:15 pm ar 2 Mawrth 2021.
Felly, dyna oedd y gwelliant olaf, ac felly fydd yna ddim pleidlais ar welliant 38, sy'n golygu ein bod ni wedi cyrraedd diwedd ein hystyriaeth o Gyfnod 3 y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru). Dwi'n datgan y bernir bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen nawr wedi'u derbyn. Ac felly, dyna ddiwedd ar ein trafodion ni ar y Cyfnod 3, a dyna ddiwedd ar ein gwaith ni am y dydd heddiw. Noswaith dda ichi.