Cyfranogiad Dinasyddion

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:35 pm ar 2 Mawrth 2021.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Reckless Mark Reckless Conservative 1:35, 2 Mawrth 2021

(Cyfieithwyd)

Rydym ni'n dweud ein bod ni eisiau hybu cyfranogiad dinasyddion yn y broses o wneud penderfyniadau, ond, Prif Weinidog, chwe mis yn ôl, nid oedd pedwar o bob 10 o bobl a holwyd yn gwybod bod iechyd wedi ei ddatganoli, neu'n credu ei fod yn cael ei redeg gan San Steffan, y mae eich plaid chi yn camfanteisio arno yn etholiadau'r DU. Oni fyddai'n well pe byddem ni'n symleiddio'r broses o wneud penderfyniadau drwy ddiddymu ein haen ddiangen o Lywodraeth?